Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn ystyried y posibilrwydd o greu gorsaf reilffordd yn Sain Tathan

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi comisiynu cwmni ymgynghori i ymchwilio i’r posibilrwydd o greu gorsaf reilffordd yn Sain Tathan.

 

  • Dydd Mawrth, 02 Mis Tachwedd 2021

    Bro Morgannwg

    Rural Vale



Yn hanesyddol, roedd dwy orsaf rheilffordd wrth ymyl y pentref, sef Silstwn a Heol Sain Tathan, ond mae’r ddwy wedi cau ers tro byd.


Roedd trydedd orsaf reilffordd, yn dwyn yr enw Sain Tathan, tua 3 cilomedr i’r gorllewin o’r pentref ger Trebefered ac mae honno hefyd wedi cau beth amser yn ôl.


Ond yn sgil ailagor Rheilffordd Bro Morgannwg yn 2005 a gorsafoedd newydd gerllaw yn Llanilltud Fawr a Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd Y Rhws, mae’r Cyngor yn awyddus i edrych a oes cyfle i ailsefydlu gorsaf ger Sain Tathan.


Bydd yr ymgynghorwyr, Arcadis, yn edrych ar ardal o gwmpas rhan o’r B4265, y ffordd o’r Barri i Lanilltud Fawr, i weld a oes safle addas ar gael.


Byddant yn ystyried nifer o ffactorau, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â nodweddion amgylcheddol, gwybodaeth am y tir, cyfyngiadau cynllunio a gofynion gorsaf, megis mynediad i gerbydau, cerddwyr a beicwyr.

Dywedodd arweinydd Cyngor Bro Morgannwg a Chynghorydd Ward Sain Tathan, y Cyng. John Thomas: “Rwy’n hynod falch ein bod yn ystyried y posibilrwydd o sefydlu gorsaf reilffordd yn Sain Tathan. Mae’r pentref wedi bod heb orsaf am amser maith a chyda’r boblogaeth leol yn tyfu mae’n synhwyrol ein bod yn ystyried ehangu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.”

Dywedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth:  “Rwy’n deall yr awydd i sefydlu gorsaf reilffordd yn Sain Tathan ac felly rydym wedi comisiynu ymgynghorwyr i benderfynu a yw hynny’n ymarferol.


“Mae cynyddu’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn cyd-fynd â menter Prosiect Sero y Cyngor i leihau allyriadau, felly mae hwn yn rhywbeth y mae gennym ddiddordeb mawr mewn ymchwilio iddo.” 

Unwaith y bydd Arcadis wedi cwblhau’r astudiaeth, caiff eu canlyniadau eu hadrodd a bydd y Cyngor yn ystyried p’un ai i fwrw ymlaen â’r cynllun.