Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn rhybuddio yn erbyn tipio anghyfreithlon ar Noson Tân Gwyllt

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi rhybuddio trigolion a threfnwyr digwyddiadau i beidio â defnyddio Noson Tân Gwyllt fel esgus i ollwng sbwriel. 

 

  • Dydd Iau, 04 Mis Tachwedd 2021

    Bro Morgannwg



Mae gosod unrhyw fath o ddeunydd gwastraff ar goelcerth yn erbyn y gyfraith ac yn cael ei ystyried yn dipio anghyfreithlon, gyda'r rhai sy'n gyfrifol yn atebol am Hysbysiad Cosb Benodedig (HCB) o £400 neu erlyniad llys.


Gall unrhyw ddeiliad tŷ sy'n defnyddio cludwr gwastraff anawdurdodedig i gael gwared ar sbwriel hefyd ymddangos yn y llys neu gael HCB o £300 gan y Cyngor. 


Dylai pobl sydd am gael gwared ar sbwriel ychwanegol fynd ag ef i'w Canolfan Ailgylchu agosaf neu ddefnyddio cludwr trwyddedig cyfreithlon i'w waredu.  


Gallent hefyd gysylltu â gwasanaeth casglu gwastraff swmpus y Cyngor.  


Mae gan bob deiliad tŷ ddyletswydd gofal i sicrhau bod unrhyw gludwr gwastraff y maent yn ei ddefnyddio yn gyfreithlon.  


Dylai'r cyhoedd hefyd gael cymaint o fanylion â phosibl am bwy sy'n casglu eu gwastraff fel enw'r person, manylion y cwmni, rhif cofrestru cerbydau a derbynneb.  


Gellir gwirio ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer trwyddedau cludwyr gwastraff. Ni fydd masnachwr cyfreithlon yn gwrthwynebu darparu'r manylion hynny.  


Meddai’r Cyng. Edward Williams - Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol, Rheoliadol a Chynllunio: 
"Gall Noson Tân Gwyllt fod yn amser pleserus, ond mae hefyd yn adeg pan mae pobl yn ceisio gwaredu  eitemau ar goelcerthi – byddem yn eu hannog i ailfeddwl. 


"Mae cludwyr gwastraff twyllodrus yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd i hysbysebu ond dylai pobl gadw’n glir ohonynt os nad ydynt yn siŵr.  


"Nid ydym am fynd â phobl i'r llys na rhoi dirwyon ond mae'n rhaid i ni ei gwneud yn glir nad yw tipio anghyfreithlon, taflu sbwriel a dympio pethau o geir yn dderbyniol. 


"Mae llawer o ffyrdd am ddim neu rad o waredu sbwriel yn gyfreithlon a byddem yn annog pawb i weithredu'n gyfrifol a defnyddio'r dull cywir." 


Gellir cael gwybodaeth am sut i roi gwybod am dipio anghyfreithlon a gwasanaeth casglu gwastraff swmpus y Cyngor ei hun drwy ffonio 01446 700111.