Cost of Living Support Icon

 

Erlyn dyn o Sain Tathan am geisio rhwystro gwerthu cartrefi symudol

Mae dyn o Sain Tathan wedi cael gorchymyn i dalu £12,000 am geisio atal gwerthu cartref symudol yn fwriadol yn dilyn erlyniad gan Gyngor Bro Morgannwg.

 

  • Dydd Llun, 08 Mis Tachwedd 2021

    Bro Morgannwg

    Rural Vale



Arweiniodd ymchwiliad gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, sy'n gwneud gwaith o'r fath i Gyngor y Fro, Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr, at ganfod William Forrest yn euog o un cyfrif dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn Llys Ynadon Caerdydd.


Cafodd ddirwy o £1,400, a dywedwyd wrtho am dalu costau o £600 a £10,000 mewn iawndal i'r dioddefwr ar ôl i'w weithredoedd effeithio ar bris gwerthu'r garafán.


Mewn achosion lle mae cartrefi symudol yn anodd eu gwerthu, maent yn aml yn cael eu gwerthu'n ôl i berchnogion safleoedd am bris gostyngol.


Yna cânt eu dymchwel a'u disodli gan gartref symudol newydd y gellir ei werthu am ffigur llawer uwch.
Mae Forrest yn rhedeg safle Parc Castleton yn Sain Tathan lle mae cartref symudol preswyl a arferai fod yn eiddo i rieni Gareth Hipperson wedi'i leoli.


Ym mis Mehefin 2019, yn dilyn eu marwolaethau, etifeddodd yr eiddo a phenderfynodd ei werthu i Tim Butcher, a ddychwelodd Ffurflen Gwerthu Arfaethedig wedi'i chwblhau i Forrest.


Nododd y ddogfen honno y byddai car Mitsubishi yn cael ei adael ar y safle, ond gwnaeth Forrest gais i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl am Orchymyn Gwrthod, gan hawlio mewn sgwrs ffôn roedd Mr Butcher wedi nodi y byddai'n parcio fan wersylla wrth ymyl y cartref symudol. 


Roedd rheolau'r safle yn gwahardd parcio unrhyw gerbydau masnachol, carafannau teithiol neu faniau gwersylla yn y lleoliad.


Gwadodd Mr Butcher yr honiad hwnnw, gan nodi nad oedd erioed wedi bod yn berchen ar gerbyd fel yr un a ddisgrifiwyd ac nad oedd wedi gwneud unrhyw alwadau ffôn i'r maes carafannau.


Ni roddwyd y Gorchymyn Gwrthod a chwblhawyd y gwerthiant yn y pen draw, ond am bris sylweddol is oherwydd yr oedi.


Honnodd Hipperson fod gwerthiant blaenorol hefyd wedi methu yn dilyn ymddygiad tebyg gan Forrest ac yn y llys daeth i’r amlwg bod Forrest wedi cyflwyno nifer o geisiadau am Orchmynion Gwrthod.


Wrth ddod i'w benderfyniad, dywedodd y Barnwr Dosbarth Shomon Khan fod yr erlyniad wedi bodloni'r safon droseddol a'i fod yn fodlon bod y diffynnydd wedi cynhyrchu datganiad ffug i'r Tribiwnlys yn fwriadol i rwystro'r gwerthiant a'i fod wedi gwneud hynny o'r blaen.

Dywedodd y Cynghorydd Eddie Williams, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol, Rheoliadol a Chynllunio, Cyngor Bro Morgannwg: "Mae hon yn enghraifft glir o rywun yn ceisio gweithredu y tu allan i'r gyfraith ac felly rwy'n croesawu penderfyniad y Llys.


"Mae gwaith diwyd gan swyddogion y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir wedi arwain at yr erlyniad hwn. Rwy'n gobeithio y bydd yn cyfleu neges glir na fydd y math hwn o ymddygiad yn cael ei oddef ac y byddwn yn cymryd camau pendant yn erbyn unrhyw un sy'n ceisio gweithredu fel hyn."