Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn gofyn am farn trigolion ar y Cynllun Cyflawni Blynyddol

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gofyn i drigolion am eu barn ar y ffordd orau o gyflawni ei amcanion lles.et.

 

  • Dydd Mawrth, 30 Mis Tachwedd 2021

    Bro Morgannwg



Bydd Cynllun Cyflawni Blynyddol yr Awdurdod yn nodi'r gwaith sydd i'w wneud dros y flwyddyn nesaf i gyflawni pedwar amcan allweddol y Cyngor.


• Gweithio gyda a thros ein cymunedau

• Ategu dysgu, cyflogaeth a thwf economaidd cynaliadwy

• Cynorthwyo pobl gartref ac yn eu cymuned

• Parchu, gwella a mwynhau ein hamgylchedd

 

Mae drafft o'r Cynllun wedi'i gynhyrchu, ac yn awr hoffai'r Cyngor i bobl rannu eu barn ar ei gynnwys.

 

Mae'r cynllun yn cynnwys camau gweithredu a gynlluniwyd i ddatblygu gwaith ar amcanion lles y Cyngor, a fydd, dros y flwyddyn i ddod, yn canolbwyntio ar amrywiaeth o themâu.

 

Civic

• Prosiect Sero – Ymrwymiad y Cyngor i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac ymateb i'r argyfwng natur drwy fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Mae hyn yn cynnwys strategaeth seilwaith gwyrdd, gwelliannau i'n tai, ein hysgolion a’n hadeiladau eraill, hyrwyddo teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus a gosod mannau gwefru cerbydau trydan yn ogystal â ffocws ar gaffael ac ymgysylltu â'r gymuned.


• Capasiti Cymunedol - Cynyddu capasiti o fewn ein cymunedau, gan sicrhau bod ganddynt lais cryfach a'u bod yn gallu dylanwadu ar wasanaethau a gweithgareddau yn y Fro a'u llunio. Bydd pob un o’r gweithgareddau a nodir yn y Cynllun yn canolbwyntio’n fwy ar ymgysylltu â’r gymuned.  Caiff strategaeth cyfranogiad y cyhoedd newydd ei chyhoeddi a byddwn yn parhau i sgwrsio â’r gymuned am y newid yn yr hinsawdd.  Byddwn hefyd yn cymryd camau i gynyddu cyfranogiad pobl ifanc ac i alluogi pobl i leisio eu barn yn fwy ar waith y Cyngor.

 

• Caledi – Bodloni anghenion y rhai sy'n profi caledi, er enghraifft anawsterau ariannol, angen am dai neu anawsterau wrth gael gwaith addas. Mae hyn yn cynnwys lleihau digartrefedd, cyngor ariannol, gwasanaethau budd-daliadau a chyflogaeth, a phrosiectau tlodi bwyd, gan gynnwys prosiectau yn ein hysgolion i gefnogi disgyblion a'u teuluoedd.  


• Gofal a Chymorth - bodloni anghenion ein trigolion mwy agored i niwed, gan sicrhau bod pobl yn gallu cael gofal a chymorth a gwybodaeth i'w cadw'n ddiogel ac yn iach gan roi sylw dyledus i'w lles corfforol a meddyliol. Mae'r cynllun yn nodi amrywiaeth o weithgareddau i gefnogi pobl gan gynnwys rhoi mwy o gyfleoedd i’r henoed, diogelu ac amddiffyn y cyhoedd, gweithio gyda phlant a'u teuluoedd a mwy o integreiddio ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol yn ogystal â chanolbwyntio ar les disgyblion mewn ysgolion.


• Trawsnewid  - Mae hyn yn dwyn ynghyd waith gyda'r gymuned a gwaith i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd ond hefyd y defnydd o’n technoleg a’n hasedau, datblygu'r gweithlu a phrosiectau arloesol a chyfleoedd i newid sut yr ydym yn gweithio ar draws yr holl wasanaethau o addysg a gofal cymdeithasol i reoli gwastraff.


• Seilwaith - buddsoddi yn ein hysgolion a'n tai a sicrhau bod gennym y seilwaith cywir yn y Fro i gefnogi lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol.  Mae'r gweithgareddau'n cynnwys rhaglen ysgolion yr 21ain ganrif, adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol ac adeiladu cartrefi cyngor newydd yn ogystal â gweithio ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gan ganolbwyntio ar gynllunio, trafnidiaeth a datblygu economaidd ar draws De-ddwyrain Cymru.