Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn cynnal Gwasanaeth Dydd y Cadoediad

Bydd seremoni gosod torch flynyddol Dydd y Cadoediad, a gynhelir ar gwrt blaen y Swyddfa Ddinesig yn y Barri, yn cael ei ffrydio'n fyw drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor.

 

  • Dydd Mercher, 10 Mis Tachwedd 2021

    Bro Morgannwg



Bydd y Maer, y Rheolwr Gyfarwyddwr, Cynghorwyr a chynrychiolwyr y Lluoedd Arfog a'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn bresennol mewn gwasanaeth byr, a ddilynir gan ddwy funud o dawelwch.

 

Bydd y seremoni yn dechrau am 10:45 a bydd yn agored i aelodau'r cyhoedd. Bydd canllawiau cadw pellter cymdeithasol llywodraeth Cymru yn cael eu dilyn gydol y digwyddiad.

 

Bydd y Caniad Olaf a Reveille yn nodi dechrau a diwedd y ddwy funud o dawelwch, a daw’r gwasanaeth i ben gyda’r anthemau cenedlaethol.

 

Gallwch wylio’n fyw ar dudalen Facebook Bro Morgannwg.