Cost of Living Support Icon

 

Cwmni arlwyo Big Fresh yn mynd o nerth i nerth

Mae Cwmni Arlwyo Big Fresh Cyngor Bro Morgannwg wedi perfformio'n drawiadol yn ystod ei flwyddyn gyntaf fel Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol, gyda mwy na £500,000 wedi'i fuddsoddi'n ôl i mewn i ysgolion.

 

  • Dydd Llun, 18 Mis Hydref 2021

    Bro Morgannwg

    Penarth



Mae model busnes arloesol yn caniatáu i'r cwmni, sy'n darparu bwyd i ysgolion a digwyddiadau, weithredu fel endid masnachol, gan ddychwelyd yr holl elw i ysgolion a'r busnes ei hun.


Yn unol â'r ethos di-elw hwn, nid oes yr un o gyfarwyddwyr y cwmni yn cael eu cyflogi ac nid yw'r Cyngor, fel yr unig gyfranddaliwr, wedi tynnu unrhyw arian oddi wrth y cwmni.


Hyd yma mae £255,000 wedi'i dalu'n uniongyrchol i ysgolion, mae £60,000 wedi mynd tuag at brosiectau ysgol a chymunedol, £88,000 yn cael ei ddefnyddio i brynu cynhwysion o ansawdd gwell, £135,000 wedi'i wario ar gynnal a chadw offer a £5,000 wedi'i ddyrannu i noddi grwpiau disgyblion fel timau pêl-droed.

 

freshcafe1

Mae'r prosiectau ysgol a chymunedol sydd wedi derbyn cyllid yn cynnwys clwb gwaith cartref a chyfoethogi, sy'n cynnig lle i ddisgyblion gwblhau eu gwaith cartref lle byddant yn cael cynnig byrbryd prynhawn iach.


Un arall yw'r pod maeth, cynhwysydd llongau wedi'i addasu sy'n caniatáu i blant ganolbwyntio ar eu hiechyd a'u lles. 


Mae'r cwt byrbrydau iach, sy'n cael ei redeg gan ddisgyblion blwyddyn pedwar, pump a chwech yn ystod amser egwyl, yn cynnig cyfle i greu bwydlen, sicrhau a pharatoi'r bwyd wrth ddysgu hefyd dysgu am elw a cholled a sgiliau mentergarwch.


Mae clybiau brecwast ac ar ôl ysgol ymhlith y cynlluniau eraill i gael cyllid, ynghyd â mentrau i greu mannau coginio a bwyta yn yr awyr agored a'r prosiect bwyd gwych, lle mae disgyblion yn paratoi ac yn coginio bwyd iach yn seiliedig ar y Plât Bwyta'n Dda


Ers ei sefydlu, mae'r Cwmni Arlwyo Big Fresh wedi creu bwydlenni heb alergenau, mwy o ddewisiadau fegan a llysieuol, gyda mwy o brydau'n cael eu gwneud o'r newydd a phob un yn bodloni safonau maeth Llywodraeth Cymru.


Mae cynlluniau hefyd i gyflwyno system archebu prydau bwyd ymlaen llaw clicio a chasglu yn y dyfodol agos.
Yn ystod y pandemig, mae'r Cwmni Arlwyo Big Fresh wedi helpu i lansio menter talebau ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim, cyflenwi prydau bwyd i staff a disgyblion mewn ysgolion hyb ac wedi helpu i drefnu a darparu bwyd i ddisgyblion sy'n agored i niwed.


Ar wahân i'r ymdrechion hynny, mae'r cwmni hefyd wedi sefydlu gweithrediadau masnachol, gan gynnwys caffi a bar trwyddedig ym Mhafiliwn Pier Penarth a busnes ar-lein sy'n danfon platiau pori, te prynhawn a chinio’r gwerinwr. 

 

bigfreshlogo

Mae yna hefyd flychau cacennau tymhorol a danteithion ar gael ar gyfer digwyddiadau fel Calan Gaeaf, Nadolig, Sul y Mamau a'r Pasg.


Mae'r caffi'n gwerthu amrywiaeth o ddiodydd poeth ac oer a chymysgeddau coffi brand eu hunain, wedi'u paratoi gan baristas hyfforddedig, a bwydlen newydd sy'n cynnwys cymaint o gynhwysion lleol â phosibl.  
Ar agor o nos Iau i nos Sul, mae'r bar yn gweini amrywiaeth o wirodydd a seidr o Gymru.


Mae cyfleoedd secondiad wedi codi i staff presennol prydau ysgol ddatblygu eu sgiliau a chreu swyddi newydd ar adeg pan oedd llawer yn ei chael hi'n anodd cael gwaith. 


Mae gan y fenter bolisi dim plastig untro, sy'n cefnogi menter Prosiect Diwastraff y Cyngor, sy'n ceisio mynd i'r afael â mater newid yn yr hinsawdd.

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg ac Adfywio: "Mae hwn yn gynllun gwirioneddol arloesol, sef y cyntaf o'i fath a weithredir gan Awdurdod Lleol, hyd y gwyddom. Mae hinsawdd ariannol heriol yn galw am arloesi wrth i ni geisio ail-lunio'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu. Mae hon yn enghraifft berffaith o sut y gall dull creadigol wella'r canlyniadau rydym wedi ymrwymo iddynt ac ar yr un pryd hybu effeithlonrwydd a gwella'n sylweddol y ffordd rydym yn gweithredu.


"Mae pob cwsmer sy'n ymweld â'r Caffi neu’r bar Big Fresh, yn archebu platiad pori ar-lein neu'n prynu cinio ysgol yn buddsoddi'n uniongyrchol mewn ysgolion, gan ganiatáu iddynt gynnig mwy i ddisgyblion ar ffurf gwell prydau ysgol a buddion eraill."

Meddai Carole Tyley, Rheolwr Gyfarwyddwr y Cwmni Arlwyo Big Fresh: "Rwyf wrth fy modd y bydd mwy na £500,000 eleni yn cael ei fuddsoddi mewn ysgolion, grwpiau cymunedol ac yn mynd tuag at gefnogi gweithrediadau masnachol. 


"Bydd arian yn cyrraedd ysgolion mewn amrywiaeth o ffyrdd, drwy grant uniongyrchol, cronfa a rennir i ddarparu rhaglenni cymorth y tu allan i'r ysgol a thrwy fuddsoddi mewn cynhwysion, eitemau bwydlen a thechnolegau newydd i adlewyrchu anghenion a cheisiadau ein cwsmeriaid a'n hysgolion Big Fresh."