Cost of Living Support Icon

 

Canolfan brofi Covid-19 dros dro yn agor yn Llanilltud Fawr 

Mae Uned Brofi Symudol Covid-19 wedi agor heddiw (dydd Llun 18 Hydref) ym Maes Parcio Le Pouliguen Way yn Llanilltud Fawr.   

 

  • Dydd Iau, 14 Mis Hydref 2021

    Bro Morgannwg



Bydd y ganolfan ar agor o 09.00 am – 5.00 pm, saith diwrnod yr wythnos. 

 

Mae'r uned symudol yn cael ei defnyddio i ddarparu cynnydd dros dro mewn capasiti profi ar gyfer Caerdydd a'r Fro a bydd ar waith am 31 diwrnod i ddechrau.     

 

Mae apwyntiadau ar y safle ar agor i'r holl breswylwyr, gan gynnwys y rhai sy'n byw y tu allan i Gaerdydd a'r Fro.  Gellir archebu apwyntiadau ar-lein yn www.gov.uk/get-coronavirus-test.

 

Mae apwyntiadau profion cerdded i mewn a gyrru drwodd ar gael.   

 

Mae'r uned brofi wedi'i gosod o fewn ardal wedi'i ffensio yn y maes parcio. Nid yw wedi'i leoli yn y feddygfa gyfagos.  Nid oes profion Covid-19 ar gael yn y feddygfa.