Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn rhagori unwaith eto yng Ngwobrau yr Faner Werdds

MAE Cyngor Bro Morgannwg wedi rhagori unwaith eto yng Ngwobrau'r Faner Werdd, gan ddod i’r amlwg fel un o'r awdurdodau sy'n perfformio orau yng Nghymru.

 

  • Dydd Iau, 14 Mis Hydref 2021

    Bro Morgannwg



Mae’r corff beirniadu, Cadwch Gymru'n Daclus, wedi rhoi statws Baner Werdd i 10 safle a gynhelir gan y Cyngor, sy’n dynodi man awyr agored o'r radd flaenaf. 


O'r 22 Cyngor yng Nghymru, gan gynnwys awdurdodau dinas Abertawe a Chasnewydd, dim ond Caerdydd sy’n llawer mwy o ran maint sydd wedi llwyddo i gael mwy na'r cyfanswm hwnnw.


Derbyniodd parciau gwledig Cosmeston a Phorthceri yr anrhydedd, ynghyd â Pharc Romilly, Parc Alexandra a Gerddi Windsor, Glan Môr Ynys y Barri a Friars Point, Parc Belle Vue, Parc Canolog, Gerddi’r Cnap, Parc Fictoria a Pharc Gladstone. 


Mewn mannau eraill yn y Sir, llwyddodd mynwent Merthyr Dyfan, a gynhelir gan Gyngor Tref y Barri, i ennill Baner Werdd, ac enillodd 15 o safleoedd Wobrau Cymunedol.

 

greenflag

Mae’r rhain yn cynnwys:  Gardd Gymunedol y Barri, Bee Loud Glade, Coetiroedd Birchgrove, Gwarchodfa Natur Leol Cwmtalwg, Elizabethan Orchard, Sgwâr Fictoria, Fferm Goldsland, Perllan Lanlay, Little Hill Brock Street, Gardd Eos, Gerddi'r Hen Neuadd, Gwenfô Uchaf, Gwenfô Gollan Cymru, Perllan Gymunedol Gwenfô a Pherllan Wyllt Gwenfô.


Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant: "Rwyf wrth fy modd bod y Fro unwaith eto wedi rhagori ac ennill cynifer o barciau Baner Werdd. O ystyried ein hadnoddau o'u cymharu ag awdurdodau eraill, mae hyn yn gamp wirioneddol ryfeddol ac yn dyst i waith caled staff ein parciau. Eu hymrwymiad hwy sy’n cadw ein mannau gwyrdd yn edrych yn wych drwy'r flwyddyn.


"Hoffwn ddiolch a llongyfarch y grwpiau gwirfoddol a chymunedol sydd hefyd wedi cael eu cydnabod am eu hymroddiad a'u gwaith caled parhaus.


"Mae’r safon sydd ei hangen i ennill statws y Faner Werdd yn hynod o uchel a gwneir cryn ymdrech y tu ôl i'r llenni er mwyn sicrhau bod gan drigolion gymaint o ardaloedd awyr agored gwych i'w mwynhau yn y Fro."


Mae'n rhaid i barciau wneud cais bob blwyddyn i gadw eu gwobr, ac mae safleoedd buddugol yn gymwys i hedfan Baner Werdd am 12 mis.


Cynhelir rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru'n Daclus, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. 


Caiff y safleoedd sy’n ymgeisio am y wobr eu dyfarnu gan arbenigwyr gwirfoddol ar fannau gwyrddion a hynny ddechrau’r hydref, gan asesu yn erbyn wyth maen prawf caeth, gan gynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol ac ymwneud y gymuned.  


Dywedodd Julie James, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros y Newid yn yr Hinsawdd: "Mae mannau gwyrdd yn hanfodol ar gyfer lles meddyliol a chorfforol a thrwy gydol y pandemig rydym wedi gweld pa mor bwysig yw'r mannau hyn i gymunedau lleol.    


"Mae gan Gymru fwy na thraean o safleoedd cymunedol Baner Werdd y DU o hyd ac mae'n wych gweld mwy o leoedd yng Nghymru yn derbyn Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd.    


"Mae'r tirweddau hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu ecosystemau cyfoethog a chymunedau bywiog a gwydn, ac rwy'n llongyfarch pob un o'r safleoedd am ddarparu cyfleusterau a digwyddiadau rhagorol drwy gydol y flwyddyn i bobl yng Nghymru."  


Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru'n Daclus: "Dangosodd y pandemig i ni pa mor bwysig yw parciau a mannau gwyrdd o ansawdd uchel i'n cymunedau. Gyda mwy o ymwelwyr nag erioed yn mwynhau ein mannau gwyrdd, hoffwn longyfarch gwaith caled staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cynnal safonau rhagorol yn y safleoedd hyn."  


Mae rhestr lawn o enillwyr y gwobrau ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus.