Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost

Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn nodi ddiwrnod rhyngwladol y cofio gydag arddangosfeydd yn yr Oriel Celf Ganolog a Phafiliwn Penarth.

 

  • Dydd Gwener, 14 Mis Ionawr 2022

    Bro Morgannwg



Cynhelir Diwrnod Cofio'r Holocost ar 27 Ionawr, ac mae'n anrhydeddu miliynau o ddioddefwyr yr Holocost, yn ogystal â hil-laddiadau wedi hynny. Ionawr 27 yw pen-blwydd rhyddhau Auschwitz-Birkenau.

 

Y thema eleni yw 'Un Diwrnod'. 

 

Bydd yr Oriel Gelf Ganolog yn cynnal arddangosfa Michal Iwanowski, ffotograffydd ac awdur o Wlad Pwyl. Ar ôl gweld darn o graffiti ar wal yng Nghaerdydd a oedd yn dweud 'Go Home' Polish', penderfynodd Iwanowski fynd ar daith yng nghanol Brexit, o'i gartref yng Nghymru i'w gartref genedigol yng Ngwlad Pwyl.

 

Gan gymryd 'un diwrnod' ar y tro, cerddodd Iwanowski am 105 diwrnod a chroesi 1200 milltir cyn cyrraedd ei gartref teuluol yng Ngwlad Pwyl.Mae'r arddangosfa hon yn cofnodi taith Iwanowski a'r bobl y cyfarfu â nhw. Mae'n tynnu sylw at gymhlethdod ymddygiad dynol ac emosiynau fel goddefgarwch a derbyn. Mae hefyd yn archwilio pynciau fel gwrthdaro, mudo gorfodol a dadleoli.

 

Bydd yr arddangosfa ar agor o 15 Ionawr tan 12 Chwefror.

 

Bydd Pafiliwn Pier Penarth yn cael arddangosfa 'Shtetl' yr artist Nicola Tucker o 24 Ionawr. Mae Nicola yn artist gwrthdaro a rhyfel ac mae Shetle, yn cyfeirio at dref fach gartref yr awdur.  

 

Mae ei gwaith yn adlewyrchu'r ffaith bod pobl yn aml yn gorfod ffoi o gartref yn gyflym iawn, gan olygu nad oes ganddyn nhw unrhyw feddiannau.

 

Maen nhw’n gorfod gadael popeth cyfarwydd i ddianc rhag rhyfel, hil-laddiad a sefyllfaoedd gormesol eraill.  

 

Bydd Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Lis Burnett, yn gwneud y datganiad o ymrwymiad ar y diwrnod. Mae'r datganiad yn cydnabod effeithiau hirsefydlog yr Holocost a phwysigrwydd cofio'r digwyddiad a'r rhai a oedd a ddioddefodd, a’r rhai y mae’n dal i effeithio arnyn nhw. Mae'r datganiad hefyd yn addo ymladd yn erbyn gwahaniaethu o bob math.

 

I gael rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa hon, ewch i: Go Home, Polish - Photographs by Michal Iwanowski | Interview by Sophie Wright | LensCulture