Cost of Living Support Icon

Diwrnod y Lluoedd Arfog

25 Mehefin 2022

Armed Forces Day 2022Ar dydd Sadwrn 25 Mehefin am 12pm, bydd Maer Cyngor Bro Morgannwg, Susan Lloyd Selby,  yn ymuno â’r Dirprwy Arglwydd Raglaw, Arweinydd, Lis Burnett, cynrychiolwyr o’r Lluoedd Arfog ac urddasolion eraill am wasanaeth byr codi baner y tu allan i'r Swyddfeydd Dinesig i ddangos eu cefnogaeth i'r Lluoedd Arfog.

 

Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle i ddangos ein cefnogaeth i'r dynion a'r menywod sy'n rhan o gymuned y Lluoedd Arfog: mae hyn yn cynnwys milwyr sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd, teuluoedd y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn a chadetiaid.

 

Mae dangos cefnogaeth i’r Lluoedd Arfog  yn fodd i godi calon y milwyr a'u teuluoedd.

 

Gallwch ddarganfod mwy am yr hyn y maent yn ei wneud gartref a ledled y byd drwy ymweld â safleoedd swyddogol y Y Llynges FrenhinolByddin Prydain a’rLlu Awyr Brenhinol.