Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor a'r Heddlu yn ymchwilio i ddifrod i goeden ym Mhenarth


Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymuno â Heddlu De Cymru i ymchwilio i fandaleiddio coeden Oestrwydden ar Dyserth Road ym Mhenarth.

 

  • Dydd Llun, 13 Mis Mehefin 2022

    Bro Morgannwg



Damage to Hornbeam treeAr ôl i Gymdeithas Ddinesig Penarth dynnu sytlw'r Cyngor at y difrod ar 29 Mai, ymwelodd Swyddogion Coedyddiaeth â'r safle a chofnodi 18 o dyllau unffurf 13mm ym môn y goeden.


Amheuir bod dril wedi'i ddefnyddio i greu'r tyllau gyda'r bwriad o ddefnyddio'r sianeli i roi cemegau marwol yn y goeden, gan ei ladd.


Ers hynny, mae'r Cyngor wedi cael CAVAT (Gwerth Asedau Cyfalaf ar gyfer Coeden Amwynder) o'r goeden i asesu'r difrod a achoswyd.  Cyn y fandaliaeth, rgwerth CAVAT y goeden oedd £27,638, fodd bynnag, dim ond £8,728 yw ei gwerth newydd.

Yn unol ag ymrwymiad Prosiect Sero'r Cyngor, sy'n ceisio gwneud y sefydliad yn garbon niwtral erbyn 2030, mae gwella bioamrywiaeth yn brif flaenoriaeth ac mae fandaliaeth fel hyn yn cael ei chymryd yn hynod o ddifri. 

Mae'r difrod wedi ei adrodd i Heddlu De Cymru sy'n annog aelodau'r cyhoedd i gyflwyno gwybodaeth neu luniau CCTV ynghylch y digwyddiad.


Tree on Dyserth RoadGellir cyflwyno hwn ar-lein gan gyfeirio at rif trosedd 2200182792.


Os oes gan drigolion broblem gyda choeden sy'n eiddo i'r cyngor ym Mro Morgannwg, dylent godi eu pryder drwy system adrodd ar-lein y Cyngor a pheidio â gweithredu eu hunain.

 

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladau – Y Cynghorydd Mark Wilson: "Roeddwn yn hynod siomedig o glywed am y difrod i'r goeden hon.  


"Er fy mod yn siŵr bod y rhan fwyaf o drigolion yn rhannu fy ffieidd-dra am y weithred yn erbyn y goeden hon, mae'n bwysig bod y person neu'r personau sy'n gyfrifol yn deall na fydd yr ymddygiad hwn yn cael ei oddef. Rwy'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth bellach i gysylltu â ni." 


Dwedodd Anne Evans, Cadeirydd Cymdeithas Ddinesig Penarth: "Ynghyd â grwpiau lleol eraill, mae Cymdeithas Ddinesig Penarth/ Fforwm Coed Penarth wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Bro Morgannwg i helpu i ofalu am ein coed stryd. 


"Mae ein gwirfoddolwyr bob amser yn chwilio am ddifrod i goed - sut bynnag y'u hachosir - ac yna rydym yn adrodd ar y cyfle cyntaf yn y gobaith y gellir achub coed."