Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn cwblhau proses dendro ar gyfer Gwasanaethau Bysiau Lleol

 

  • Dydd Gwener, 10 Mis Mehefin 2022

    Bro Morgannwg


 

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi penderfynu pa gwmnïau bysus fydd yn gyfrifol am weithredu llwybrau pwysig yn y Sir.

 

Mae'r llwybrau hyn, sy'n chwarae rhan hanfodol wrth gadw pobl a chymunedau'n gysylltiedig, yn cael cymhorthdal er mwyn eu gwneud yn hyfyw.

 

Mae'r Cyngor wedi buddsoddi bron £1 miliwn yn y gwasanaethau hyn, gan gynnwys arian o'i gyllideb ei hun yn ogystal â chyllid y cytunwyd arno gan awdurdodau cyfagos a grant cymorth gwasanaethau bysus gan Lywodraeth Cymru.

 

Roedd gwasanaethau B3, 88, 89A/89B, 100, 303, 304, 320 a 321, sy'n cwmpasu'r Barri, Penarth, Dinas Powys a'r Fro wledig, i gyd yn cael eu tendro.

 

Yn ogystal â'r gwasanaethau hyn, roedd disgwyl i wasanaeth gwennol 905 Maes Awyr Caerdydd hefyd gael ei adnewyddu. Bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru.

 

Cytunodd Cabinet y Cyngor ar y cynigion tendro hyn mewn cyfarfod ddydd Iau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Leoedd Cynaliadwy:  "Mae cyflenwi trafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd da yn hanfodol i helpu i gadw pobl ledled y Fro yn gysylltiedig. Mae angen y gwasanaethau hyn sy’n cael eu defnyddio gan lawer o drigolion, cymudwyr ac ymwelwyr.

 

"Mae trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol, ar y cyd â darpariaethau da ar gyfer teithio llesol, yn un o'r dulliau niferus a ddefnyddir gan y Cyngor i helpu i fynd i'r afael yn lleol ag argyfwng y newid yn yr hinsawdd. Bydd yn ein helpu yn ein hymrwymiad Prosiect Sero i fod yn garbon niwtral erbyn 2030."