Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn nodi Wythnos Genedlaethol y Beic gyda phatrolau beiciau

  • Dydd Iau, 09 Mis Mehefin 2022

    Bro Morgannwg


 

Bike Week

 

Mae Tîm Gorfodi Cyngor Bro Morgannwg yn cynnal eu patrolau arfordirol rheolaidd ar feic i nodi Wythnos Genedlaethol Beiciau.  

 

Yn gysylltiedig â menter Prosiect Sero'r Cyngor, sy'n ceisio lleihau allbwn carbon yn sylweddol erbyn 2030, mae'r tîm yn cymryd camau i wneud eu gwaith yn wyrddach.


Yn ogystal â bod yn fwy ecogyfeillgar, mae'r tîm yn gobeithio y bydd hyn yn eu helpu i gwmpasu mwy o dir a gwella effeithlonrwydd wrth fynd allan ar batrôl.

 

Mae'r mentrau hyn yn dilyn amrywiaeth o gamau sy'n ystyriol o feiciau a gymerwyd gan y Cyngor, gan gynnwys cyflwyno gorsafoedd trwsio beiciau newydd, am ddim yn ddiweddar ledled y Fro.

 

Mae'r Cyngor hefyd wedi cyhoeddi'n ddiweddar y bydd llwybrau beicio'n cael eu cwblhau ledled ysgolion yn y Fro a llwybr teithio llesol newydd yn Sain Tathan. 

 

Mae Beiciau OVO safonol a thrydan hefyd ar gael i'w rhentu ym Mhenarth a Sili, gydag wyth gorsaf docio i'w cael ledled y dref.

 

Mae Wythnos Genedlaethol Beicio yn rhedeg o 6 i 12 Mehefin ac anogir pobl i fynd allan a mwynhau eu cymuned ar feic.

Dywedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Leoedd Cynaliadwy:  "Fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i leihau allyriadau carbon i sero net erbyn 2030, mae'n bleser gennyf gyhoeddi'r haf hwn y bydd aelodau o Dîm Gorfodi'r Cyngor yn patrolio ein cyrchfannau arfordirol drwy e-feic drwy gydol yr haf.

 

"Mae'r tîm yn cymryd llawer o gamau i wneud y gwaith yn ecogyfeillgar.  Mae eu holl grysau, capiau pêl fas, siacedi, esgidiau a Parkvests wedi cael eu gwneud o ddeunydd wedi'i ailgylchu.

 

"Er mai newid bach yw hwn, y gobaith yw y gellir cyflwyno'r math hwn o syniad ymhellach, lle bo hynny'n ymarferol.  Bydd hyn yn well i'n hamgylchedd ac yn well i staff y Cyngor yn ystod misoedd cynnes yr haf."

I gael y newyddion diweddaraf am deithio llesol y Cyngor, ewch i wefan y Cyngor.