Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor i ystyried Trwyddedau Masnachu Dros Dro

Bydd Cabinet Cyngor Bro Morgannwg yn ystyried cynnig a allai arwain at ymgynghoriad ar ddyfodol Trwyddedau Masnachu Dros Dro ar Esplanâd Penarth.

  • Dydd Gwener, 17 Mis Mehefin 2022

    Bro Morgannwg



Mae trwyddedau dros dro yn caniatáu i fusnesau lletygarwch fasnachu ar y briffordd gyhoeddus ac fe'u cyhoeddwyd yn ystod y pandemig i helpu gydag effaith cyfyngiadau gweithredu.


Mae'r rhan fwyaf o Drwyddedau Masnachu Dros Dro wedi'u rhoi ar gyfer lle ar balmentydd, ond  cawsant eu rhoi hefyd ar gyfer treialu Parklets, ardaloedd cwsmeriaid o fewn mannau parcio, mewn rhai lleoliadau ym Mhenarth.


Yn flaenorol, addawodd y Cyngor adolygu ei safbwynt ar y mater hwn ar ôl yr Etholiadau Lleol, a gynhaliwyd y mis diwethaf.


Bydd yr adroddiad sy'n mynd gerbron y Cabinet yr wythnos nesaf yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor yn ddiweddarach heddiw (dydd Gwener 17 Mehefin).

 

Civic

Mae'n cynnwys cynlluniau ar gyfer ymgynghori ac ymgysylltu â'r cyhoedd ar ddyfodol Esplanâd Penarth, gan ganolbwyntio'n benodol ar a ddylid parhau ag ardaloedd trwyddedig allanol. Bydd goblygiadau cysylltiedig o ran rheoli traffig a thir cyhoeddus hefyd yn cael eu cynnwys.


Y bwriad oedd i’r Trwyddedau Masnachu Dros Dro a oedd yn bodoli ar yr esplanâd ddod i ben ddiwedd y mis, yn ogystal â threfniadau tebyg ar gyfer busnesau yn Ynys y Barri.


Pe bai cynigion yn cael eu cymeradwyo ddydd Iau, byddai'r trwyddedau hyn yn cael eu hestyn o fis i fis tra gofynnir am farn ar reoli'r esplanâd. 

Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu:  "Bu gwelliant sylweddol yn y maes cyhoeddus ar yr esplanâd ac o'i amgylch, gyda'r Cyngor yn buddsoddi'n helaeth ym Mhafiliwn y Pier.  Rydym hefyd wedi cynnal rhaglen baentio helaeth ar y pier a’r esplanâd yn ogystal â gwelliannau i balmentydd ac arwyneb y ffordd. 


"Mae diddordeb sylweddol gan y cyhoedd yn y mater hwn a safbwyntiau gwahanol ynghylch a yw mannau bwyta allanol a mannau trwyddedig yn nodwedd gadarnhaol neu negyddol yn y lleoliad hwn.


"Os caiff cynigion eu cymeradwyo, bydd y Cyngor yn lansio ymarfer ymgysylltu cyhoeddus cynhwysfawr i sefydlu barn pawb sydd â diddordeb ynghylch trefniadau masnachu yn y dyfodol. 


"Byddai'r safbwyntiau hynny wedyn yn cael eu casglu ynghyd a'u dadansoddi'n briodol cyn gwneud penderfyniad ar y ffordd orau ymlaen."