Cost of Living Support Icon

 

Agor canolfan tai a chymuned newydd ym Mhenarth


Mae datblygiad newydd wedi'i gwblhau'n ddiweddar yn Eglwys Sant Paul ym Mhenarth ar ôl buddsoddiad sylweddol gan Gyngor Bro Morgannwg.

 

  • Dydd Mercher, 15 Mis Mehefin 2022

    Bro Morgannwg



St Pauls PenarthDarparodd yr Awdurdod £400,000 o gronfeydd cynllunio adran 106 tuag at brosiect gwerth £3 miliwn i greu canolfan gymunedol a thai cymdeithasol. 


Wedi'i ddarparu mewn partneriaeth â Chymdeithas Tai Newydd a Gwasanaeth Gwirfoddol Morgannwg (GGM), adeiladwyd canolfan gymunedol amlbwrpas, ynghyd â 14 o fflatiau un a dwy ystafell wely i'w rhentu'n fforddiadwy, gyda ffasâd gwreiddiol yr eglwys yn cael ei gadw.


Ers i Newydd gael ei ddewis gan y Cyngor fel y cynigydd a ffefrir ar gyfer y datblygiad hwn yn ôl yn 2017, mae'r gymdeithas dai wedi gweithio gyda thrigolion lleol, y Cyngor a grwpiau cymunedol i sicrhau bod y cynlluniau'n ateb anghenion y gymuned leol.

 

Cllr Sivagnanam at St Pauls OpeningCymeradwywyd y datblygiad gan y Cyngor yn 2018, ac mae bellach wedi'i feddiannu'n llawn.


Daeth yr Aelod Cabinet dros Ymgysylltu â'r Gymuned, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoliadol, Ruba Sivagnanam, i’r agoriad swyddogol. 

"Mae agor y neuadd gymunedol newydd hon ar gyfer Penarth yn dangos yn union yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd partneriaid a chymunedau'n dod at ei gilydd," meddai.


"Mae GGM, Newydd a Chyngor Bro Morgannwg i gyd wedi chwarae eu rhan ond yn bwysicaf oll mae datblygu'r man cymunedol hwn wedi cael ei arwain gan y trigolion lleol a'r grwpiau cymunedol a fydd yn ei ddefnyddio.  


"Bydd y ddwy neuadd, swyddfa a chegin yn darparu canolfan i elusennau a grwpiau dielw i ddarparu gweithgareddau a chefnogaeth i drigolion Penarth, yn ogystal â rhoi lle i bobl leol ar gyfer partïon a digwyddiadau. 


"Y ganolfan hon yw canolbwynt ailddatblygiad St Paul a diolch i bolisi Gosod Tai’n Lleol Newydd mae ganddi'r potensial i fod yn hyb cymunedol go iawn."

 

Dywedodd Jason Wroe, Prif Weithredwr Newydd:  "Gallaf ddweud ar ran holl staff Newydd ein bod yn falch iawn gyda lansiad y ganolfan gymunedol yn St Paul's. 

 

"Mae gwrando ar weithwyr GGM yn dweud wrthym fod y ganolfan wedi'i harchebu'n llawn ar sawl diwrnod yn ystod yr wythnos, heb unrhyw hyrwyddo, yn gamp fawr.

 

"Mae'r gymuned yn sicr wedi croesawu'r ganolfan a'i chyfleusterau ac edrychwn ymlaen at barhau â'n partneriaeth gyda GGM a hyd yn oed cymryd rhan yn y gweithgareddau a llogi'r gofod gwaith ein hunain!  Hoffem ddymuno pob hwyl i GGM yn y dyfodol.”