Cost of Living Support Icon

 

Mae Haf o Hwyl yn ôl ar gyfer 2022

Ar ôl bod yn boblogaidd mewn blynyddoedd blaenorol, mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ffurfio partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau cymunedol i greu amserlen haf llawn hwyl, yn llawn gweithgareddau am ddim i bobl ifanc ledled y Fro. 

 

  • Dydd Mawrth, 28 Mis Mehefin 2022

    Bro Morgannwg



Summer Of Fun Logo

Ariennir y rhaglen gan Lywodraeth Cymru a'i nod yw cefnogi lles plant a phobl ifanc i barhau i adfer yn sgil y cyfyngiadau Covid dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda'r fantais ychwanegol o gefnogi teuluoedd gyda chostau gweithgareddau dros wyliau'r haf. 


Bydd Yr Haf o Hwyl yn rhedeg o 01 Gorffennaf i 30 Medi, ac yn cynnig dros gant o weithgareddau am ddim, sy'n addas i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed. 


Mae rhai o'r gweithgareddau'n cynnwys hela ffosiliau, saethyddiaeth, dosbarthiadau dawnsio a gweithdai radio. Mae'r rhaglen hefyd yn cynnig gweithgareddau cynhwysol i blant ag anghenion ychwanegol, megis sesiynau fflotiau dŵr a theganau.


Fel rhan o Haf o Hwyl 2022, bydd diwrnod llawn hwyl i'r teulu ym Mharc Romilly i ddathlu Diwrnod Chwarae Cenedlaethol ar 03 Awst.  Mae'r diwrnod yn tynnu sylw at bwysigrwydd chwarae ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol a pherthnasoedd plant. 


Gallwch weld amserlen Yr Haf o Hwyl ar wefan Bro Morgannwg.


Bydd yr amserlen yn cael ei diweddaru'n rheolaidd gyda gweithgareddau newydd, cyffrous, felly cofiwch wirio.

Dywedodd y Cynghorydd Gwyn John, yr Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Lles: "Rwy'n falch iawn o weld bod cymaint o sefydliadau lleol yn darparu gweithgareddau am ddim i bobl ifanc o bob oedran eu mwynhau yn y Fro.


"Rwy'n gobeithio y bydd y rhaglen Haf o Hwyl yn helpu teuluoedd yn y Fro i ddod o hyd i ffyrdd hwyliog o dreulio gwyliau'r haf."