Cost of Living Support Icon

 

Y broses o gyflwyno system teledu cylch cyfyng newydd y Fro wedi dechrau

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi gosod camerâu teledu cylch cyfyng newydd ym Mhenarth fel rhan o waith uwchraddio ehangach ledled y Sir.

 

  • Dydd Mawrth, 07 Mis Mehefin 2022

    Bro Morgannwg



New CCTV system in Penarth

Fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i gadw trigolion yn ddiogel, gwnaed buddsoddiad sylweddol mewn gweithredu gwasanaeth teledu cylch cyfyng newydd ar draws y Sir a fydd yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru ac mewn cydweithrediad â Chyngor Caerdydd ar gyfer monitro effeithiol.

 

Bydd y cynllun newydd yn golygu y caiff 78 o gamerâu sefydlog eu huwchraddio ledled Y Barri, Penarth a Llanilltud Fawr, ac y caiff camerâu newydd eu gosod ar Sgwâr y Brenin Y Barri, Rhodfa Penarth ac yn y Bont-faen.

 

Bydd rhwydwaith camerâu newydd yn cael ei fonitro 24/7 yn ystafell reoli Cyngor Caerdydd a chyfleuster gwylio newydd yng Ngorsaf Heddlu'r Barri, gan roi'r gallu i'r Cyngor a Heddlu De Cymru ymateb i faterion yn gyflymach.

 

Dywedodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai'r Sector Cyhoeddus ac Ymgysylltu â Thenantiaid: "Mae rhwydwaith teledu cylch cyfyng effeithiol yn helpu i gynnal diogelwch ein trigolion. Gall adnabod troseddwyr ac mae'n rhwystr sylweddol, gan leihau nifer y troseddau a gyflawnir.

 

"Bydd y system newydd a gwell yn galluogi'r Cyngor a'r Heddlu i weithredu atebion amser real i broblemau lleol, lleihau amseroedd ymateb a sicrhau bod Bro Morgannwg yn parhau i fod yn lle diogel i fyw ynddo."