Cost of Living Support Icon

 

Tri grŵp blwyddyn i dderbyn prydau ysgol am ddim

Mae’r Cyngor wedi cadarnhau y bydd disgyblion ysgol Bro Morgannwg ym Mlynyddoedd Un a Dau yn cael prydau ysgol am ddim saith mis cyn amserlen Llywodraeth Cymru.

 

  • Dydd Mercher, 22 Mis Mehefin 2022

    Bro Morgannwg



WCyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddydd Llun y bydd disgyblion Derbyn yn cael prydau ysgol yn ddi-dâl o fis Medi ymlaen, gyda disgyblion yn y ddau grŵp blwyddyn nesaf yn ymuno â nhw ym mis Ebrill. 


Ond mae Cyngor Bro Morgannwg wedi gallu cyflymu'r broses sy'n golygu y bydd pob un o'r tri grŵp blwyddyn yn cael cynnig prydau ysgol am ddim o ddechrau'r flwyddyn ysgol newydd. 


Bydd y ddarpariaeth yn cael ei chyflwyno mewn partneriaeth â’r Big Fresh Catering Company ac mae wedi bod yn bosibl diolch i lwyddiant y fenter honno.

Dwedodd Aelod Cabinet Bro Morgannwg dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg – Y Cynghorydd Rhiannon Birch:  "Mewn ymateb i'r argyfwng costau byw presennol, mae'r Cyngor, ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a’r Big Fresh Catering Company, yn falch o gyhoeddi y bydd disgyblion Blwyddyn Un a Blwyddyn Dau, o fis Medi ymlaen, yn cael cynnig prydau ysgol maethlon am ddim.


"Rydym wrth ein bodd y bydd y ddarpariaeth ar gael ar gyfer y ddau grŵp blwyddyn nesaf yn gynharach o lawer nag mewn rhannau eraill o Gymru oherwydd perfformiad rhagorol y Big Fresh Catering Company.


"Mae hi’n gyfnod anodd, gyda phrisiau ynni, tanwydd a bwyd i gyd yn cynyddu a llawer yn wynebu tlodi bwyd. Y gobaith yw y gall hyn wneud rhywfaint i leddfu'r pwysau sy'n cael ei deimlo gan deuluoedd a helpu i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd yn llwglyd tra yn yr ysgol." 

Sefydlodd y Cyngor Big Fresh fel Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol yn 2020.

 

FSM

Mae'n darparu prydau ysgol i ysgolion partner ac yn gweithredu gwasanaeth arlwyo masnachol a bar a chaffi ym Mhafiliwn Pier Penarth. 


Mae model busnes arloesol yn caniatáu i'r cwmni weithredu fel endid masnachol, gyda'r holl wargedion yn cael eu dychwelyd i ysgolion neu'n cael eu defnyddio i gynnal y busnes ei hun. 


Yn unol â'r ethos di-elw hwn, nid oes yr un o gyfarwyddwyr y cwmni yn gyflogedig ac nid yw'r Cyngor, fel yr unig gyfranddaliwr, wedi tynnu unrhyw arian allan o'r cwmni.


Mae’r arian wedi mynd tuag at gefnogi prosiectau ysgol a chymunedol, buddsoddi mewn cynhwysion o ansawdd gwell a noddi grwpiau cymunedol fel timau pêl-droed a chlybiau celfyddydol. 

 

Ers ei sefydlu, mae'r Big Fresh Catering Company wedi creu bwydlenni heb alergenau a chynyddu dewisiadau figan a llysieuol, gyda mwy o brydau'n cael eu gwneud o'r newydd a phob un yn bodloni safonau maethol Llywodraeth Cymru.

 

Mae ganddo bolisi dim plastig untro hefyd, sy'n cefnogi menter Prosiect Sero'r Cyngor, sy'n anelu at wneud y sefydliad yn garbon niwtral erbyn 2030.