Cost of Living Support Icon

 

Gweinidogion y DU yn ymweld ag Ysgol Gynradd Trwyn y De

Mae gwleidyddion o dair Llywodraeth yn y DU wedi ymweld ag Ysgol Gynradd Trwyn y De i ddysgu mwy am ysgol ddi-garbon net gyntaf Cymru.

 

  • Dydd Mercher, 15 Mis Mehefin 2022

    Bro Morgannwg

    Barri



Estynnodd Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, Lis Burnett, groeso i Rebecca Evans AoS/AS, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru; Kate Forbes ASA (Aelod o Senedd yr Alban), Ysgrifennydd Cabinet Senedd yr Alban dros Gyllid a'r Economi; a Conor Murphy ACD (Aelod o’r Cynulliad Deddfwriaethol), Gweinidog Cyllid Cynulliad Deddfwriaethol Gogledd Iwerddon, i'r ysgol ddydd Mercher.


Cwblhawyd gwaith ar y prosiect gwerth £5.4 miliwn ym mis Chwefror a dechreuodd yr addysgu yn y cyfleuster tra chyfoes yn fuan wedyn.


Mae ei ddyluniad chwyldroadol yn golygu y bydd allyriadau nwyon tŷ gwydr yn cael eu lleihau'n fawr ac y bydd unrhyw allyriadau sy’n weddill yn cael eu gwrthbwyso, gan niwtraleiddio effaith amgylcheddol yr ysgol.

 

southpoint

Mae'r adeilad wedi'i gynllunio i gyflawni carbon sero-net drwy ffabrig adeiladu gwell, gwneud y mwyaf o ynni solar, mwy o baneli ffotofoltäig gyda batris storio a phwmp gwres ffynhonnell aer.
Mae lle awyr agored sylweddol ar gyfer gweithgareddau chwarae a chwaraeon a storfa ar gyfer beiciau a sgwteri i helpu i hyrwyddo teithio llesol. 


Yn ogystal mae gan yr ysgol bwyntiau gwefru cerbydau trydan, ardaloedd cynefin gwyrdd sy’n cynnwys blodau a choed ar y safle i wella’r ecoleg, a maes chwarae ac ardal gemau aml-ddefnydd.


Dechreuodd y contractwyr, ISG Construction, weithio ar yr ysgol, sydd â lle i 210 o ddisgyblion a 48 o leoedd meithrin rhan-amser, ym mis Ionawr y llynedd.


Bydd yr addysgu'n cael ei gynnal mewn ystafelloedd dosbarth ar ddau lawr, ac mae’r dyluniad hefyd yn cynnwys prif neuadd ar gyfer chwaraeon a bwyta, swyddfeydd, ystafell staff ac ardaloedd seibiant. Mae'r gwaith yn rhan o raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu y Cyngor, cynllun gwella hirdymor a fydd yn cynnwys buddsoddiad o £135 miliwn i ddarparu cyfleusterau o'r radd flaenaf ac amgylcheddau dysgu modern.

Dywedodd y Cynghorydd Burnett: "Roeddwn wrth fy modd yn croesawu ymwelwyr o bob cwr o'r wlad i Ysgol Gynradd Trwyn y De i arddangos yr ysgol arloesol hon.


Bydd yr adeilad ysgol newydd hwn yn cynnig amgylchedd addysgu a dysgu modern i staff a disgyblion yn ogystal ag amrywiaeth o gyfleusterau ar gyfer y gymuned leol.


"Mae'r Cyngor wedi gwneud ymrwymiad o ran yr hinsawdd trwy ein menter Prosiect Sero, gyda’r nod o wneud y sefydliad yn garbon niwtral erbyn 2030.


"Mae creu ysgolion fel hyn sy'n hynod ecogyfeillgar yn rhan allweddol o'r addewid hwnnw.


"Mae hyn yn brosiect pwysig yn ein rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, partneriaeth bwysig gyda Llywodraeth Cymru sy'n trawsnewid cyfleusterau addysg ledled y Fro."