Cost of Living Support Icon

 

Taith Parch y Gwarchodlu Cymreig ar gyfer 40fed Pen blwydd

 

  • Dydd Mercher, 22 Mis Mehefin 2022

    Bro Morgannwg

 

 


Dangosodd Cyngor Bro Morgannwg ei gefnogaeth i Daith Parch 40fed Pen-blwydd y Gwarchodlu Cymreig pan deithiodd drwy'r Barri. 

Bu'r digwyddiad beiciau modur, sy'n cael ei gynnal dros bedwar diwrnod, yn ymweld â'r dref ddydd Mercher i gofio ac anrhydeddu'r Gwarchodlu Cymreig a'r rhai sy'n gysylltiedig â'r gatrawd. 

Mae'n talu teyrnged i filwyr a gollodd eu bywydau mewn modd trasig yng Ngwrthdaro Ynysoedd Falkland 40 mlynedd yn ôl a'i nod yw codi ymwybyddiaeth yn lleoliadau Cofebion Ynysoedd Falkland.

Bydd y Daith Parch yn ymweld â chofebion ledled y wlad sy'n ymroddedig i’r arwyr a laddwyd yng Ngwrthdaro Ynysoedd Falkland, a gynhaliwyd yn 1981 rhwng 2 Ebrill a 14 Mehefin. 

Mae'r daith yn rhychwantu cyfanswm pellter o dros 1,000 o filltiroedd a dechreuodd ym Marics Combermere, Windsor ddydd Mawrth. Bydd yn gorffen yng Nghofeb y Gwarchodlu Cymreig yn Wrecsam brynhawn dydd Gwener.

Greg Thomas

Cyrhaeddodd y beicwyr Gofadail y Barri am 09:05 ddydd Mercher. Yno gosodwyd torch yng Nghofeb Ynysoedd Falkland er cof am y Gwarchodfilwr Raymond Gregory 'Greg' Thomas o'r Gwarchodlu Cymreig, a fu farw ar fwrdd y Syr Galahad ar 8 Mehefin, 1982.

Ganed Greg Thomas yn Y Barri a mynychodd Ysgol Gynradd Gladstone Road ynghyd â'i frawd a'i chwiorydd. Cofnodir ei enw yn y Neuadd cofio yn Neuadd Goffa'r Barri ac ar blac yn eglwys Merthyr Dyfan.

Bydd y Cyngor hefyd yn dangos ei gefnogaeth i'r Lluoedd Arfog drwy ddathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog ddydd Sadwrn 25 Mehefin. 

Bydd Maer y Cynghorydd Susan Lloyd Selby, ynghyd â'r Arweinydd y Cynghorydd, Lis Burnett a'r Urddau eraill, yn cynnal gwasanaeth byr y tu allan i'r Swyddfeydd Dinesig am 12pm  

Dywedodd y Cynghorydd Eddie Williams, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Bro Morgannwg: "Roedd yn fraint ac yn anrhydedd croesawu'r digwyddiad hwn a'r reidwyr i Fro Morgannwg. 

"Mae'r diolchgarwch sydd arnom i'n Lluoedd Arfog, yn y gorffennol a'r presennol, yn anfesuradwy ac ni fyddwn byth yn anghofio'r aberth a wnaethant ac effaith y gwrthdaro ar eu teuluoedd." 

Parhaodd Gwrthdaro Ynysoedd Falkland 1982 am 10 wythnos, gan arwain at farwolaethau mwy na 900 o bobl. Arweiniodd ymosodiad yr Ariannin ar Ynysoedd y Falkland a ddelir gan Brydain at farwolaeth 255 o bersonél milwrol Prydain, tri ynysydd a 649 o filwyr yr Ariannin yn ystod y Gwrthdaro 74 diwrnod.  Adenillodd lluoedd Prydain Ynysoedd Falkland ar 14 Mehefin, 1982.