Cost of Living Support Icon

 

Astudiaethau archeolegol yn datgelu tirwedd hanesyddol Lôn Pum Milltir

Mae archeolegwyr sy'n gweithio i Gyngor Bro Morgannwg wedi gwneud darganfyddiadau hanesyddol arwyddocaol yn Lôn Pum Milltir (A4226) y Barri.

  • Dydd Mawrth, 29 Mis Mawrth 2022

    Bro Morgannwg



5 Mile Lane Roman PotteryDechreuodd Rubicon Heritage Services Ltd gloddio'r safle yn 2017 cyn prosiect y Cyngor i wella ffordd yr A4226. 


I ddechrau, roedd safle'r astudiaeth yn destun asesiad desg ac arolwg geoffisegol a oedd yn nodi'r meysydd allweddol yr oedd angen eu harchwilio ymhellach.


Nodwyd bod tair ardal yn arwyddocaol iawn gydag olion helaeth ac arwyddocaol felly cawsant eu cloddio'n llawn.


5 Mile Lane Medieval burialsDatgelodd y cloddio amrywiol artiffactau a strwythurau diddorol, gan ddarparu tystiolaeth o'r bobl oedd yn byw yn yr ardal o'r cyfnod cynhanesyddol cynnar hyd at y cyfnod Rhufeinig.


Ymhlith y darganfyddiadau roedd olion yr hyn y credir iddo fod yn filwr Rhufeinig wedi’i gladdu gyda'i gleddyf, offer ffermio o'r Oes Haearn, safleoedd claddu hynafol a gweddillion cyfres o dai crwn.


Drwy gydol y gwaith cloddio, ymwelodd cynrychiolwyr Amgueddfa Genedlaethol Cymru, GGAT, Prifysgol Caerdydd a Cadw â'r safle a chydgysylltu â Rubicon.


Yn dilyn yr ymchwiliadau, mae Rubicon Heritage wedi cyhoeddi e-lyfr archeolegol ar y gwaith a wnaed rhwng 2017-2019 a map stori rhyngweithiol o'u canfyddiadau.


Bydd y canfyddiadau academaidd manwl ar gael tua diwedd 2022 pan fydd yr arbenigwyr wedi cwblhau eu dadansoddiad.

Dywedodd Emma Reed, Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: "Mae'n wych dysgu bod yr astudiaeth archeolegol yn Lôn Pum Milltir wedi datgelu hanes mor fanwl o'r ardal.

 

"Mae'r cynllun wedi datgelu olion diddorol ac annisgwyl weithiau, sy'n ein helpu i ddeall sut cafodd y dirwedd amaethyddol a welwn heddiw ei llunio."


Dywedodd Mark Collard, Cyfarwyddwr Grŵp Archaeoleg Red River, sy'n cynnwys Rubicon Heritage Services Ltd: "Roedd yn fraint i'n tîm fod wedi cyflwyno prosiect sydd wedi ychwanegu cynifer o ddarganfyddiadau newydd am archaeoleg a hanes Bro Morgannwg.

 

"Rydym yn falch iawn o allu rhannu'r canlyniadau mewn fformat mor hygyrch â chymunedau'r ardal."