Cost of Living Support Icon

 

Disgyblion yn dechrau dysgu yn ysgol ddi garbon gyntaf Cymru 

Mae disgyblion wedi dechrau gwersi yn Ysgol Gynradd South Point yn y Rhws – ysgol carbon sero net gyntaf Cymru. 

 

  • Dydd Mercher, 02 Mis Mawrth 2022

    Bro Morgannwg

    Barri



Cwblhawyd y gwaith ar y prosiect £5 miliwn yn ddiweddar a dechreuodd yr addysgu yn y cyfleuster modern ddydd Mercher yn dilyn yr egwyl hanner tymor.

 

sp1

Mae ei ddyluniad chwyldroadol yn golygu y bydd allyriadau nwyon tŷ gwydr yn cael eu lleihau'n fawr ac unrhyw allyriadau sy’n weddill yn cael eu gwrthbwyso, gan niwtraleiddio effaith amgylcheddol yr ysgol. 

 

Mae'r adeilad wedi'i gynllunio i gyflawni carbon sero-net drwy ffabrig adeiladu gwell, gwneud y mwyaf o ynni solar, mwy o baneli ffotofoltäig gyda batris storio a phwmp gwres ffynhonnell aer.


Mae gofod awyr agored sylweddol ar gyfer gweithgareddau chwarae a chwaraeon a storfa ar gyfer beiciau gwthio a sgwteri i helpu i hyrwyddo teithio llesol. 


Mae gan yr ysgol bwyntiau gwefru cerbydau trydan hefyd, gydag ardaloedd cynefin gwyrdd yn cynnwys blodau a choed o fewn ei thiroedd, maes chwarae ac ardal gemau aml-ddefnydd.

 

sp3

Dechreuodd y contractwyr, ISG Construction, weithio ar yr ysgol, sydd â lle i 210 o ddisgyblion a 48 o leoedd meithrin rhan-amser, ym mis Ionawr y llynedd.


Bydd yr addysgu'n cael ei gynnal mewn ystafelloedd dosbarth ar ddau lawr, ac mae’r dyluniad hefyd yn cynnwys prif neuadd ar gyfer chwaraeon a bwyta, swyddfeydd, ystafell staff ac ardaloedd ymlacio. 

 

Mae'r gwaith yn rhan o raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu y Cyngor, cynllun gwella hirdymor a fydd yn cynnwys buddsoddiad o £135 miliwn i ddarparu cyfleusterau o'r radd flaenaf ac amgylcheddau dysgu modern.

 

sp7Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Adfywio ac Addysg: "Fe wnes i alw draw i’r ysgol yr wythnos ddiwethaf ac mae'n hollol hyfryd. 

 

Alla i ddim aros i glywed barn y plant. Bydd yr adeilad ysgol newydd hwn yn cynnig amgylchedd addysgu a dysgu modern i staff a disgyblion yn ogystal ag ystod o gyfleusterau ar gyfer y gymuned leol.

 

"Mae'r Cyngor wedi gwneud ymrwymiad hinsawdd drwy ein menter Prosiect Sero, sy'n anelu at wneud y sefydliad yn garbon niwtral erbyn 2030.


"Mae creu ysgolion fel hyn sy'n hynod o ecogyfeillgar yn rhan allweddol o'r addewid hwnnw.


“Dyma’r prosiect diweddaraf yn ein rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu – corpws o waith pellgyrhaeddol sydd â’r nod o drawsnewid cyfleusterau addysgol ar draws y Fro.”