Cost of Living Support Icon

 

Annog pleidleiswyr i gofrestru i gael dewud eu dweud ym mis Mai

Ddydd Iau 5 Mai, bydd pleidleiswyr ym Mro Morgannwg yn cael dweud eu dweud am bwy fydd yn eu cynrychioli ar eu cyngor lleol.

 

  • Dydd Mercher, 23 Mis Mawrth 2022

    Bro Morgannwg


 


Er mwyn pleidleisio ym mis Mai, rhaid i drigolion fod ar y gofrestr etholiadol. Mae'r dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yn prysur nesáu, ac mae Cyngor Bro Morgannwg yn annog pobl nad ydynt wedi cofrestru yn eu cyfeiriad cyfredol i sicrhau eu bod yn cofrestru mewn pryd.

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw hanner nos ddydd Iau 14 Ebrill. Pum munud mae'n ei gymryd i wneud cais ar-lein yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. 

Eleni, bydd trigolion ym Mro Morgannwg yn pleidleisio i ddewis cynghorwyr sy'n cynrychioli eu hardal leol a'i thrigolion ac yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu polisïau mewn meysydd megis trafnidiaeth, gofal cymdeithasol a thai.

Dywedodd Rob Thomas, y Swyddog Cofrestru Etholiadol ar gyfer Cyngor Bro Morgannwg:

“Nid oes gennych lawer o amser i sicrhau y gallwch gymryd rhan yn yr etholiadau hyn. Maent yn gyfle pwysig i ddweud eich dweud am bwy sy'n eich cynrychioli ar faterion sy'n cael effaith uniongyrchol ar fywyd beunyddiol yma ym Mro Morgannwg. 

“Os na fyddwch wedi cofrestru erbyn 14 Ebrill, ni fyddwch yn gallu pleidleisio.”

Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru: 

“Ni allwch leisio eich barn yn yr etholiadau hyn oni bai eich bod wedi cofrestru i bleidleisio. Mae'n hawdd cofrestru a bydd ond yn cymryd pum munud.

“Os ydych wedi cael eich pen-blwydd yn 16 oed neu wedi symud cartref yn ddiweddar, mae'n arbennig o bwysig gwneud yn siŵr eich bod wedi cofrestru i bleidleisio yn gywir.  

“Os oeddech wedi cofrestru i bleidleisio yn yr etholiad diwethaf ac nad yw eich manylion wedi newid, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. Os oes unrhyw amheuaeth, gallwch gadarnhau â'ch awdurdod lleol drwy ffonio 01446 729552.”

Gall pobl ddewis pleidleisio mewn sawl ffordd – yn bersonol, drwy'r post neu drwy benodi rhywun y maent yn ymddiried ynddo i bleidleisio ar eu rhan, a elwir yn bleidlais drwy ddirprwy.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost yw 5pm ar 19 Ebrill, a'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yw 5pm ar 26 Ebrill. 

I gael gwybodaeth am etholiadau yn eu hardal, sut i gofrestru i bleidleisio, neu sut i wneud cais i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy, gall pleidleisiwyr fynd i'r Wefan Comisiwn Etholiadol.

 

Bydd y dudalen hon yn parhau i gael ei diweddaru cyn yr etholiadau.