Cost of Living Support Icon

 

Penarth i gynnal haf o ddigwyddiadau

  • Dydd Gwener, 20 Mis Mai 2022

    Bro Morgannwg



Bydd dau leoliad a reolir gan Gyngor Bro Morgannwg yn cynnal digwyddiadau drwy gydol misoedd yr haf nesaf.

 

Bydd Pafiliwn Pier Penarth a Gerddi Cymin yn llwyfan ar gyfer perfformiadau i ddod.

 

Cynhelir y cyntaf o'r digwyddiadau hyn, 'An Act of Piracy', ym Mhafiliwn Pier Penarth brynhawn Dydd Mercher 25 Mai.

 

Mae ‘An Act of Piracy’, a grëwyd gan y perfformiwr arobryn Richard Parry ac yng nghwmni’r pianydd Laurie Rich, yn adrodd hanes herwgipio dyn ifanc drwy gyfrwng caneuon a siantis môr Prydeinig.

 

Mae'r sioe yn rhan o dymor cyngherddau caffi misol ym Mhafiliwn y Pier yn dilyn cyngerdd Kiki Dee a werthodd allan yn ddiweddar.

 

Yn dilyn adfywio’r Sinema Snowcat, sefydlu’r Big Fresh Café a’r defnydd cynyddol o’r pafiliwn fel gofod cymunedol, dyma’r enghraifft ddiweddaraf o welliannau a wnaed gan y Cyngor i’r adeilad ar ei newydd wedd.


Yn ogystal â'r digwyddiad hwn, mae tri digwyddiad ar y gweill yng Ngerddi’r Cymin. Bydd Illyria yn perfformio cynhyrchiad theatr o Peter Pan ar 16 Mehefin, The Pirates of Penzance ar 25 Awst ac A Midsummer Night's Dream ar 2 Medi.

 

Y gobaith yw y bydd y digwyddiadau hyn yn helpu i weithredu a chryfhau rôl y Pier a’r Ardd fel asedau cymunedol ac yn dangos sut mae'r Cyngor yn dod o hyd i ffyrdd newydd a chreadigol o ddefnyddio lleoliadau cymunedol pwysig ledled y Fro. 

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant, y Cynghorydd Kathryn McCaffer:"Mae'n wych gweld Pafiliwn Pier Penarth a Gerddi’r Cymin yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau gydol yr haf.


"Mae'r mannau hyn yn eiconau pwysig iawn ym Mhenarth ac mae Cyngor Bro Morgannwg yn croesawu'r cyfle i helpu i sicrhau eu bod yn parhau i gael eu defnyddio gan y gymuned a chan ymwelwyr fel ei gilydd."

 Gellir prynu tocynnau ar gyfer pob digwyddiad sydd ar y gweill yn y ddau leoliad ar-lein drwy dudalen Eventbrite Pafiliwn Pier Penarth