Cost of Living Support Icon

 

Ysgol Uwchradd Whitmore yn derbyn adroddiad gwych gan arolygwyr Estyn

Mae Ysgol Uwchradd Whitmore wedi cael ei chanmol yn fawr yn ei hadroddiad arolygu cyntaf erioed. 

  • Dydd Iau, 26 Mis Mai 2022

    Bro Morgannwg



Whitmore High School

Agorodd yr ysgol newydd y llynedd, gyda stiwdio gerddoriaeth, cae chwaraeon 3G maint llawn ac ardal ddysgu awyr agored ymhlith cyfleusterau eraill o'r radd flaenaf. 


Law yn llaw â'r adeilad ysgol newydd daeth ethos ac ymagwedd newydd at ddysgu a gyflwynwyd gan y pennaeth Innes Robinson, a arweiniodd at Estyn yn rhoi adolygiad gwych i'r ysgol.


Ymwelodd Estyn â’r ysgol i gynnal arolygiadau o bum maes allweddol: 'Dysgu'; 'Llesiant ac agweddau at ddysgu'; 'Profiadau addysgu a dysgu'; 'Gofal, cymorth ac arweiniad'; 'Arweinyddiaeth a rheolaeth'.


Agorodd Whitmore ym mis Mawrth 2021, rhan o raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Cyngor Bro Morgannwg, partneriaeth â Llywodraeth Cymru sy'n cynnwys uwchraddio seilwaith addysgol yn gynhwysfawr ar draws y sir.


Yn dilyn arolygiad ar y safle a chyfweliadau gyda staff, disgyblion a rhieni, mae Estyn wedi cyhoeddi adroddiad ar eu canfyddiadau.


Whitmore High School StudentsYn ôl trosolwg yr adroddiad: "Mae athroniaeth Ysgol Uwchradd Whitmore wedi'i seilio'n gadarn ar y 'pedair colofn' sy'n darparu'r sail ar gyfer datblygu'r plentyn cyfan ac sy'n ffurfio 'Gwerthoedd Whitmore'.  Mae'r athroniaeth hon yn cael ei hyrwyddo gan bron pob aelod o staff sy'n gweithio i sicrhau bod disgyblion yn cael eu gwerthfawrogi a bod rhywun yn gwrando arnynt, yn cael eu trin fel unigolion, ac yn cael addysgu cyson dda a chyfleoedd helaeth y tu allan i wersi."


Yn yr adran “Llesiant ac agweddau at ddysgu”, dywed yr adroddiad: "Mae disgyblion yr Ysgol Uwchradd yn datblygu'n llwyddiannus yn ddinasyddion cyfrifol a gofalgar oherwydd yr ethos cryf a grëwyd gan 'Werthoedd Whitmore'. Mae staff yn modelu'r gwerthoedd hyn yn gyson yn eu hymwneud â disgyblion ac, o ganlyniad, mae lefel uchel o barch ac ymddiriedaeth rhwng holl aelodau cymuned yr ysgol."


Mae'r adborth cadarnhaol yn parhau yng nghategori 'Dysgu': "Mae llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cryf yn eu dysgu ac yn elwa'n sylweddol o addysgu ac asesu effeithiol. Mewn gwersi, maent yn dangos gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn o bynciau."


Ym maes 'Profiadau addysgu a dysgu', canfu'r arolygwyr fod athrawon yn meithrin perthynas waith gadarnhaol gyda disgyblion ac yn rheoli eu hystafelloedd dosbarth yn effeithiol:  "Mae gan y rhan fwyaf o athrawon wybodaeth gref am bynciau ac maent yn addysgu'n frwdfrydig.  Mae ganddynt ddisgwyliadau uchel o'r hyn y gall disgyblion ei gyflawni ac maent yn darparu cymorth sy'n annog cyfranogiad gweithredol mewn dysgu.  Mae'r athrawon hyn yn cynllunio gwersi'n effeithiol, gan drefnu gwybodaeth a sgiliau yn gamau dilyniannol sy'n adeiladu'n rhesymegol ar ei gilydd." 


Mae'r adolygiad llawn canmloliaeth yn parhau yn y categori 'Gofal, cymorth ac arweiniad', sy'n nodi:  "Mae'r ysgol yn meithrin ethos cefnogol a chynhwysol iawn sy'n hyrwyddo llesiant ei disgyblion yn llwyddiannus. Mae ei hethos gynhwysol a'i diwylliant cryf o gymryd rhan mewn dysgu a mwynhad yn cael ei atgyfnerthu'n llwyddiannus gan 'Werthoedd Whitmore'.  Mae 'Diwylliant ar gyfer Dysgu' sefydledig yn cael ei werthfawrogi gan staff a disgyblion ac mae'n cael effaith sylweddol ar agweddau ac ymddygiad cadarnhaol y rhan fwyaf o ddisgyblion." 


Yn olaf, o dan y pennawd “Arweinyddiaeth a Rheolaeth”, mae’r adroddiad yn nodi’r canlynol:  "Mae'r pennaeth yn cynnig arweinyddiaeth ysbrydoledig i Ysgol Uwchradd Whitmore.  Caiff ei gefnogi’n dda gan ei uwch dîm arwain. Gyda'i gilydd, maent wedi datblygu gweledigaeth glir i gefnogi a meithrin angerdd a thalentau pob disgybl unigol wrth baratoi ar gyfer eu bywydau yn y dyfodol.  Mae'r weledigaeth hon wedi'i rhannu'n llwyddiannus gyda staff, disgyblion a'r corff llywodraethu."  

Dwedodd y Pennaeth Innes Robinson: "Mae'n wych gweld gwaith caled ac ymroddiad ein staff a'n disgyblion yn cael eu cydnabod yn adroddiad Estyn.  Rydym wrth ein bodd gyda'r adborth cadarnhaol a gawsom ym mhob categori yn yr adroddiad a byddwn yn parhau i weithio'n galed i roi'r profiadau dysgu gorau posibl i'n disgyblion."

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg – Y Cynghorydd Rhiannon Birch:  "Roeddwn wrth fy modd yn darllen adroddiad arolygu rhagorol Ysgol Uwchradd Whitmore.  Mae'r adroddiad yn adlewyrchu ymdrech aruthrol staff a disgyblion ac felly dylent fod yn hynod falch o'r hyn y maent wedi'i gyflawni.  Llongyfarchiadau, Ysgol Uwchradd Whitmore!"