Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn llacio cyfyngiadau gwastraff dros y Nadolig

Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn ailgyflwyno casgliadau bagiau du anghyfyngedig am gyfnod o dair wythnos ar ddiwedd y flwyddyn i helpu cartrefi i ymdopi â gwastraff dros y Nadolig.

 

  • Dydd Gwener, 25 Mis Tachwedd 2022

    Bro Morgannwg



Dim ond dau fag du o wastraff na ellir ei ailgylchu y gall trigolion eu cyflwyno i’w casglu bob yn ail wythnos fel arfer.
Ond, er mwyn helpu i ddelio â’r gwastraff ychwanegol sy’n cael ei greu dros gyfnod yr ŵyl, fe fydd y rheol hon yn cael ei llacio rhwng 26 Rhagfyr a 13 Ionawr.


Mae trigolion yn dal i gael eu hannog i ailgylchu cymaint o ddeunydd ag y gallant. Yn aml gall papur lapio a phecynnau eraill gael eu hailgylchu, neu eu hailddefnyddio os nad yw hynny'n bosibl.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilkinson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Adeiladau a’r Priffyrdd: "Rydyn ni’n deall y ceir mwy o wastraff dros dymor y Nadolig ac rydyn ni am gael gwared arno mewn ffordd sydd mor ymarferol â phosib i drigolion.


"Gyda hyn mewn golwg, ni fydd unrhyw gyfyngiadau ar faint o wastraff bag du y gall aelwyd ei roi allan am dair wythnos.


"Fodd bynnag, byddem yn annog pobl i ddefnyddio'r cyfle hwn i gael gwared ar wastraff Nadolig na ellir ei ailgylchu yn unig.


"Fe wnaeth y Cyngor ddatgan argyfwng hinsawdd yn 2019 ac mae wedi ymrwymo i Brosiect Sero, ei gynllun i fod yn garbon niwtral erbyn 2030.


"Mae ein gweithgareddau ailgylchu wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda'n perfformiad ymysg y gorau yng Nghymru.


"Mae cynnal a gwella ar y safonau hynny yn hanfodol wrth i ni geisio helpu i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd a gwella'r amgylchedd naturiol."