Cost of Living Support Icon

 

Meinciau coffa wedi eu gosod yn Gerddi Gladstone

Trefnodd Cyngor Bro Morgannwg a Chyngor Tref y Barri i ddwy fainc cofeb rhyfel newydd gael eu gosod yn edrych dros Erddi Gladstone yn y Barri.

 

  • Dydd Gwener, 04 Mis Tachwedd 2022

    Bro Morgannwg



Memorial banner

 

Mae'r meinciau yn cynnwys dyluniad coffaol arbennig o filwyr a phabi coch, yn ogystal â phlac personol. Ariannodd y ddau gyngor fainc yr un, gyda Chyngor Bro Morgannwg hefyd yn talu am y gost gosod.


Dyluniwyd a chynhyrchwyd y meinciau gan gwmni David Ogilvie Engineering Limited, sydd wedi'i leoli yn yr Alban.


Ymunodd aelodau eraill o Gyngor Tref y Barri a Chyngor Bro Morgannwg â'r aelodau Cabinet y Cyng Mark Wilson a'r Cyng Margaret Wilkinson, a'r Hyrwyddwr Cyn-filwyr, y Cynghorydd Ian Buckley.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladau, y Cynghorydd Mark Wilson: “Mae’r meinciau hyn yn ychwanegiad i’w groesawu i’r gerddi, sy’n cael eu mwynhau’n dawel gan gymaint o drigolion. Wrth i Ddydd y Cofio agosáu, mae’n bwysig inni ddathlu’r arwyr a frwydrodd dros ein gwlad a’n rhyddid.


“Roedd yn anrhydedd i mi fynychu’r agoriad swyddogol heddiw a chefnogi’r fenter wych hon.”