Cost of Living Support Icon

 

Cystadleuaeth Cerdyn Nadolig y Maer 2022

 

  • Dydd Llun, 21 Mis Tachwedd 2022

    Bro Morgannwg


 

 

 

Christmas Card CYEleni, bydd Maer Bro Morgannwg yn cynnal cystadleuaeth cerdyn Nadolig i egin artistiaid ar draws ysgolion cynradd y Fro.

 

Mae'r Maer yn gofyn i blant ysgol gyflwyno dyluniadau ar gyfer ei gerdyn Nadolig blynyddol fydd yn ei anfon ar gyfer Nadolig 2022.

 

Bydd y cerdyn Nadolig yn cynnwys y dyluniad buddugol a bydd yn cael ei anfon yn ddigidol ar draws y wlad.

 

Bydd yr enillydd lwcus hefyd yn cael ei wahodd i gael te gyda'r Maer.

 

I gystadlu bydd gofyn i blant gyflwyno dyluniadau eu cardiau ynghyd â'u henw, eu hoedran, pa ysgol y maen nhw’n ei mynychu a chyfeiriad cyswllt ar gefn pob llun.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cystadlu yw dydd Mercher 30 Tachwedd.

 

Gellir anfon cyflwyniadau mewn e-bost i Swyddfa'r Maer yn Mayor@valeofglamorgan.gov.uk. Gallwch hefyd bostio eich dyluniadau atom yn Swyddfa'r Maer, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, y Barri CF63 4RU.