Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn gofyn am farn trigolion ar Gynllun Cyflawni Blynyddol

Mae'r Cynllun Cyflawni Blynyddol (CCB) yn manylu ar y gwaith a fydd yn cael ei wneud dros y flwyddyn nesaf er mwyn cyflawni pedwar amcan allweddol y Cyngor.  

 

  • Dydd Mercher, 23 Mis Tachwedd 2022

    Bro Morgannwg



Dyma nhw:

  • Gweithio gyda, a thros ein cymunedau
  • Ategu dysgu, cyflogaeth a thwf economaidd cynaliadwy 
  • Cynorthwyo pobl gartref ac yn eu cymuned 
  • Parchu, gwella a mwynhau ein hamgylchedd 

Bydd yr ymgynghoriad ar y CCB yn cael ei gynnal am saith wythnos, tan 8 Ionawr 2023.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, bydd y Cyngor yn ceisio adborth ynghylch a yw'r amcanion hyn yn berthnasol o hyd. 
Yn ogystal â'r pedwar amcan allweddol, mae'r cynllun eleni yn manylu ar dair her y mae'r Cyngor yn teimlo eu bod yn flaenoriaeth ar gyfer y 12 mis nesaf.

 

Dyma nhw: 

  • Yr Argyfwng Costau Byw – cefnogi ein trigolion, a sefydliadau a busnesau lleol yn wyneb costau cynyddol yn enwedig o ran ynni, bwyd a thai.
  • Prosiect Sero - ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur a chyflawni’r ymrwymiadau yn ein Cynllun Her Hinsawdd. 
  • Gwydnwch Sefydliadol - sicrhau y gallwn barhau i addasu i’r heriau a darparu ein gwasanaethau er gwaethaf y pwysau ariannol a'r heriau o ran y gweithlu sy'n ein hwynebu ni a llawer o'n sefydliadau partner.  

Bydd y camau a restrir yn y cynllun yn cyfrannu at y broses o ymateb i'r heriau allweddol hyn yn ogystal â chyfrannu at yr amcanion cyffredinol. 

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, "Rydym yn gwybod y bydd y flwyddyn nesaf yn hynod heriol i ni i gyd, ond byddwn yn parhau i wynebu effeithiau'r argyfwng costau byw a’r pwysau sylweddol ar lawer o'n gwasanaethau ac yn parhau i ganolbwyntio ar ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur.  Ni fydd unrhyw un o'r tasgau hyn yn hawdd, ond mae pob un ohonynt yn hynod bwysig os ydym am barhau i fodloni anghenion cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.”

 

Gallwch gael mwy o wybodaeth am y CCB a dweud eich dweud yn https://cymrydrhan.valeofglamorgan.gov.uk/cynllun-cyflawni-blynyddol