Cost of Living Support Icon

 

The Story So Far gyda Catrin Finch ym Mhafiliwn Pier Penarth

 

  • Dydd Gwener, 16 Mis Medi 2022

    Bro Morgannwg


 

 

Yn ystod yr hydref, bydd Pafiliwn Pier Penarth yn croesawu Catrin Finch am berfformiad o'i sioe boblogaidd 'The Story So Far'.

 

Mae'r lleoliad a reolir gan cyngor y Bro wedi cael cyfres o berfformiadau llwyddiannus yn ddiweddar, gan gynnwys haf o berfformiadau theatr a cherddoriaeth fel Kiki Dee a Carmelo Luggeri mewn cyngerdd.

 

Mae'r delynores ryngwladol wedi cael ei chanmol yn helaeth dros ei gyrfa sy'n 35 mlynedd ac mae wedi cyflawni nifer o lwyddiannau mawr gan gynnwys bod yn delynores swyddogol Tywysog Cymru a chyflwyno The Harp's Journey, cyfres dair rhan i'r BBC Radio 3.

 

Mae The Story So Far yn daith 80 munud trwy fywyd cerddorol un o delynorion gorau a mwyaf beiddgar y byd. Mae Finch hefyd yn athro gwadd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a'r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain.

 

pavilion-header-web

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg, y Cynghorydd Rhiannon Birch:  "Rwy'n falch iawn o weld digwyddiad addawol arall eto yn cael ei gynnal yn y lleoliad hanesyddol hwn.

 

"Mae'r Pafiliwn yn ased lleol pwysig ac mae'n wych gweld cymaint o ddigwyddiadau bendigedig yn cael eu cynnal yno, boed yn theatr, cerddoriaeth, arddangosfeydd neu'n ddarlithoedd.

 

"Mae llwyddiant yr holl berfformiadau diweddar yn y Pafiliwn a Gerddi Cymin yn dangos y potensial a'r galluoedd y gall y lleoliadau hyn eu cynnig."

 

Meddai Karen Davies, Rheolwr y Pafiliwn: "Mae'n bleser gennym groesawu'r delynores hygroes Catrin Finch am un noson yn unig ym Mhafiliwn Pier Penarth ddydd Sadwrn 24 Medi. 

 

"Mae'n siŵr o fod yn noson hudolus o gerddoriaeth yn lleoliad hyfryd oriel y Pafiliwn.  Drysau a bar ar agor o 6.30pm ar gyfer dechrau cyngerdd 7.30pm"

Am docynnau a mwy o wybodaeth, ewch i  dudalen Eventbrite Pafiliwn Pier Penarth.