Cost of Living Support Icon

 

Cyngor y Fro yn ceisio barn ar Adroddiad Cwmpasu ACI Drafft

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi lansio cam nesaf y CDLlN ac yn holi barn ar Adroddiad Cwmpasu’r Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI) Drafft. 

  • Dydd Mawrth, 06 Mis Medi 2022

    Bro Morgannwg



Mae'r ACI yn broses ar gyfer ystyried a chyfathrebu effeithiau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol, a diwylliannol tebygol y cynllun.


Yn ôl y gyfraith, rhaid i’r CDLlN fod yn destun Arfarniad Cynaliadwyedd i sicrhau bod datblygu cynaliadwy yn sail iddo. Nod yr arfarniad yw lliniaru'r effeithiau negyddol a gwneud y mwyaf o effeithiau cadarnhaol y broses o wneud cynllun.


Dyma'r cyntaf o bum cam allweddol yn y broses ACI. Mae'r Cyngor wedi paratoi Adroddiad Cwmpasu Drafft sy'n amlinellu'r materion a'r amcanion y bydd cynaliadwyedd y CDLlN yn cael ei asesu yn eu herbyn.


Mae hwn yn gam casglu tystiolaeth i raddau helaeth, ac yn nodi'r cyd-destun lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol presennol a materion cynaliadwyedd sy’n berthnasol i'r ardal leol.  


Mae’r Adroddiad ACI Drafft i'w weld ar wefan y Cyngor, yn ogystal â chrynodeb annhechnegol. Gellir cyflwyno sylwadau trwy'r porth ymgynghori ar-lein neu drwy lawrlwytho ac argraffu copïau papur. 

 

Cwblewch yr arolwg


Mae’r cam hwn o’r ymgynghoriad yn dod i ben ar 29 Medi.