Cost of Living Support Icon

 

Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Bro Morgannwg yn derbyn adroddiad arolygu cadarnhaol

 

  • Dydd Mawrth, 06 Mis Medi 2022

    Bro Morgannwg



Cafodd Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Bro Morgannwg (GTI) raddfa gyffredinol 'Da' yn dilyn arolygiad gan Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi.

 

Yn gorff amlasiantaethol, mae’r GTI yn cynnwys cynrychiolwyr o dîm Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor, yr Heddlu, y Gwasanaeth Prawf, Iechyd, Addysg a’r rhai sy'n mynd i'r afael â chamddefnyddio cyffuriau ac alcohol.

 

Mae’n gweithio gyda phobl ifanc rhwng 8 a 17 oed sy'n troseddu neu mewn perygl o droseddu a dioddefwyr eu troseddau.

Nod y gwasanaeth yw:

 

  • Atal plant a phobl ifanc rhag troseddu ac aildroseddu.
  • Galluogi plant a phobl ifanc i fynd i'r afael ag unrhyw niwed a achosir i ddioddefwyr eu trosedd neu'r gymuned ehangach. 
  • Cynorthwyo rhieni i hyrwyddo ymddygiad a chanlyniadau positif i'w plant. 
civic2

Cynigir amrywiaeth o gefnogaeth er mwyn cyflawni'r nodau hyn, gan gynnwys rheoli dicter lle mae pobl ifanc yn ystyried ffyrdd cadarnhaol o ddelio â'u dicter.

 

Mae cwnsela cyffuriau yn cynnwys gweithwyr sydd wedi'u hyfforddi yn trafod canlyniadau cymryd cyffuriau, tra bod cyfryngu teuluol yn caniatáu i deuluoedd godi pryderon ac archwilio atebion i drafferthion gyda'u perthnasoedd.

 

Mae ymwybyddiaeth o ddioddefwyr yn caniatáu i bobl ifanc gyfarfod a gwrando ar ddioddefwyr troseddau i'w helpu i ddeall ei effaith ar unigolion.

 

Mae gwaith grŵp cyffredinol i hybu hunan-barch a hyder hefyd weithiau'n cael ei ddarparu ar amrywiaeth o bynciau, fel atal cenhedlu a rhyw diogel a chael mynediad at addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. 

Yn dilyn yr asesiad diweddar, dywedodd Prif Arolygydd y Gwasanaeth Prawf Justin Russell:  "Sefydlogrwydd, angerdd a phrofiad - mae gan Wasanaeth Troseddau Ieuenctid Bro Morgannwg y rhain, a sawl priodoledd arall, sy'n sicrhau'r cynhwysion cywir ar gyfer llwyddiant. Mae gan blant fynediad at yr hyn sydd ei angen arnynt i lwyddo a symud oddi wrth droseddu pellach - mae hyn yn newyddion da i bawb dan sylw, yn enwedig y cymunedau lleol yn y Fro a ledled y de-ddwyrain."

Canmolodd yr arolygwyr wybodaeth staff yn y GTI a'u darpariaeth gyffredinol o waith o ansawdd da sy'n atal plant rhag troseddu.

Fe wnaethon nhw hefyd ganfod bod meysydd penodol o'u gwaith o safon uchel, sy'n arwydd cadarnhaol bod gwasanaeth wedi sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng helpu plant a gwarchod y cyhoedd.

 

Nodwyd ambell faes hefyd ar gyfer gwella, gyda gofyn i'r GTI edrych ar ansawdd y gwasanaethau sydd ar gael i blant a chyfeiriad i'r gwasanaeth fod yn fwy cyson o ran sut mae'n asesu ac yn goruchwylio pob plentyn o dan ei oruchwyliaeth.

 

Mae'r adroddiad yn gwneud chwe argymhelliad i GTI Bro Morgannwg, gan gynnwys y dylai weithredu ei bolisi ailsefydlu yn llawn - y gwaith sy'n helpu plant i ddychwelyd i'r gymuned ar ôl bod yn y ddalfa - o fewn y 12 mis nesaf.

 

Dywedodd y Cynghorydd Eddie Williams, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: "Mae Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Bro Morgannwg yn gwneud gwaith gwych mewn nifer fawr o ardaloedd i helpu pobl ifanc i droi oddi wrth droseddu. Mae'n enghraifft wych o bobl o wahanol asiantaethau yn cydweithio'n gynhyrchiol gyda'i gilydd er mwyn cynnig cyfres amrywiol o gefnogaeth.

 

"Rwy'n falch iawn bod eu hymdrechion wedi cael eu cydnabod yn yr adroddiad arolygu hwn.  Mae'n wobr addas i unigolion ymroddedig sydd yn aml yn gorfod delio â sefyllfaoedd heriol."