Cost of Living Support Icon

 

Goleuadau a decin newydd i gael eu gosod ym Mhafiliwn Pier Penarth 

Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn dechrau'n fuan ar y gwaith gwella diweddaraf ym Mhafiliwn Pier Penarth - a bydd decin a goleuadau newydd gael eu gosod. 

 

  • Dydd Gwener, 03 Mis Chwefror 2023

    Bro Morgannwg

    Penarth



Mae gwaith atgyweirio a chynnal a chadw helaeth wedi digwydd ers i'r Cyngor gymryd cyfrifoldeb am yr adeilad ddwy flynedd yn ôl. 


Mae’r Big Fresh Café and Bar, sy'n cael ei weithredu gan y Cyngor, yn cynnig bwyd a diod wedi’i gyrchu’n lleol, gyda'r holl elw’n cael ei fuddsoddi’n ôl i ysgolion y Fro i wella'r gwasanaeth prydau a chefnogi mentrau eraill.

 
Mae digwyddiadau a dosbarthiadau, gan gynnwys cyngherddau a darlithoedd, yn cael eu cynnal yno, mae ystafell fwrdd ar gael i fusnesau lleol, tra bod modd llogi'r adeilad ei hun fel lleoliad priodas neu ar gyfer digwyddiadau eraill.

 

pavilion1

Mae Snowcat hefyd wedi ailagor y sinema ac yn dangos ffilmiau yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn. 


Bydd y gwaith diweddaraf hwn yn cynnwys gosod goleuadau yn y byrddau decin newydd er mwyn goleuo'r pafiliwn yn well.
Bydd modd hefyd goleuo’r adeilad mewn amrywiaeth o liwiau i nodi gwahanol ddiwrnodau coffa ac ymwybyddiaeth.


Bydd y decin yn cael ei ddisodli ar bob lefel is a balconïau uchaf y pafiliwn gyda byrddau sy'n cyd-fynd â'r prif bier. 

Dwedodd Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg – Y Cynghorydd Rhiannon Birch:  "Ers cymryd cyfrifoldeb dros Bafiliwn Pier Penarth ychydig flynyddoedd yn ôl, mae'r Cyngor wedi mynd ati i'w adfer fel ased cymunedol.


"Mae gwaith uwchraddio helaeth wedi cael ei wneud, mae'r Big Fresh Café and Bar wedi agor ac mae amryw o weithgareddau a digwyddiadau wedi'u trefnu i breswylwyr ac ymwelwyr eu mwynhau. 


"Nesaf, bydd y decin hen ffasiwn yn cael ei ddisodli gan fyrddau sy'n cyd-fynd â hanes a threftadaeth y pier.


"Bydd goleuadau newydd hefyd yn cael eu gosod er mwyn goleuo’r adeilad eiconig hwn yn well."