Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn erlyn perchennog siop ddiodydd drwyddedig yn dilyn gwerthiant alcohol dan oed

Mae gweithredwr siop ddiodydd drwyddedig yn y  Barri wedi cael dirwy o dros £2,500 am werthu alcohol dan oed ac am droseddau trwyddedu eraill yn dilyn erlyniad llwyddiannus gan Gyngor Bro Morgannwg.

 

  • Dydd Iau, 12 Mis Ionawr 2023

    Bro Morgannwg



Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, sy'n cynnal dyletswyddau safonau masnach a swyddogaethau eraill ar gyfer ardaloedd awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr, y Fro a Chaerdydd, a ddygodd yr achos yn erbyn Chiragkumar Patel.


Ym mis Rhagfyr 2021, roedd yn rhedeg siop Shreeji Stores ar Coldbrook Road East yn y dref pan ymwelodd Swyddog Safonau Masnach, yng nghwmni gwirfoddolwyr 15 ac 16 oed, yn dilyn cwynion gan rieni.


Aeth y gwirfoddolwyr at y cownter, ble roedd Patel yn gweithio, a cheisio prynu bocs o seidr ffrwythau am £12.99.

 

Alcohol

Gofynnodd Patel pa mor hen oedd un o'r gwirfoddolwyr, ac, ar ôl cael gwybod ei fod yn 15, eglurodd bod yn rhaid i berson fod o leiaf 18 oed i brynu alcohol.


Yna cododd £1.01 ychwanegol iddo am y caniau, a gafodd eu tynnu o'u bocs, eu gosod mewn bagiau du a'u trosglwyddo y tu allan i'r siop, lle'r oedd Patel wedi dweud wrth y gwirfoddolwr i aros.


Daeth hyn dri mis ar ôl i bryderon gael eu codi gyntaf ac roedd Patel wedi derbyn canllawiau llafar ac ysgrifenedig ar werthu alcohol. 


Roedd wedi honni mai ef oedd y Goruchwylydd Safle Dynodedig ar gyfer y siop, rôl sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, ond yn ddiweddarach darganfuwyd fod hyn yn anwir. 


Yn ystod cyfweliadau ac ymchwiliad pellach, daeth i'r amlwg hefyd fod Patel wedi cyflwyno gwybodaeth ffug i Adran Drwyddedu Cyngor Bro Morgannwg. 


Yn Llys Ynadon Caerdydd, cafodd ddirwy o £640 am werthu alcohol i berson dan 18 oed, £640 am beidio â chael Goruchwylydd Safle Dynodedig a £640 am roi gwybodaeth ffug.


Gorchmynnwyd Patel hefyd i dalu costau o £500 a gordal dioddefwr o £190. Daeth y cyfanswm i £2,610.

PatelnewDywedodd y Cynghorydd Ruba Sivagnanam, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg ar faterion Ymgysylltu â’r Gymuned, Cydraddoldebau a Gwasanaethau Rheoleiddio: "Mae rheolau am werthu alcohol yn eu lle am reswm - er mwyn amddiffyn pobl ifanc rhag niwed.


"Roedd Patel yn gwybod am y gyfraith ond fe ddewisodd ei hanwybyddu'n fwriadol drwy ganiatáu i bobl yr oedd yn gwybod eu bod dan oed i brynu alcohol o'i siop.


"Roedd hefyd yn gweithredu'n fwriadol heb Oruchwylydd Safle Dynodedig a chyflwynodd ddogfennau yr oedd yn gwybod eu bod yn ffug i adran drwyddedu'r Cyngor.


"Hoffwn ddiolch i Swyddogion Safonau Masnach am y gwaith diwyd sydd wedi arwain at yr erlyniad hwn. 


"Dylai'r achos hwn anfon neges at eraill sy'n diystyru'r gyfraith fel hyn na fydd ymddygiad o'r fath yn cael ei oddef."