Cost of Living Support Icon

 

Datganiad gan Gyngor Bro Morgannwg ar Eagleswell Road

Arweinydd y Cyngor yn esbonio cynlluniau'r Awdurdod ar gyfer y safle

 

  • Dydd Gwener, 20 Mis Ionawr 2023

    Bro Morgannwg


 

 

Cllr Lis Burnett

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg:  "Bydd tua 90 o unedau o lety dros dro yn cael eu datblygu ar safle hen Ysgol Gynradd Eagleswell yn Llanilltud Fawr. Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru fydd yn darparu tai tymor byr o ansawdd uchel i rai mewn angen, fel ffoaduriaid o'r rhyfel yn Wcráin.

 

"Mae'r byd wedi gwylio mewn arswyd wrth i'r gwrthdaro hwnnw ddatblygu, gyda'r gymuned ryngwladol yn dangos ei chefnogaeth i Wcráin yn bennaf. Mae'r rhain yn anheddau nad ydynt yn barhaol sydd â’r nod o ddarparu ar gyfer y rhai sy'n ffoi rhag erledigaeth a pherygl.

 

"Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan bod Cymru'n 'Genedl Noddfa', gan bwysleisio ei hawydd i helpu i wella bywydau ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

 

"Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i'r nod hwnnw ac yn falch ei fod, ers dechrau'r rhyfel, wedi gwneud ymdrech sylweddol i helpu'r rhai mewn angen. Mae nifer fawr wedi cael llety Canolfan Croeso tymor byr a gwesty, tra bod cannoedd o drigolion y Fro wedi dangos caredigrwydd aruthrol wrth agor eu cartrefi i faciwîs Wcreinaidd.

 

"Mae'n bwysig bod darpariaeth ar gael hefyd tan i'r bobl hyn symud i dai mwy parhaol ac mae'r safle yma wedi cael ei nodi yn addas iawn i'r pwrpas yma.

 

"Nid yw'r unedau hyn yn strwythurau parhaol felly gellir eu symud i leoliad arall yn y dyfodol. Bydd y datblygiad ar Eagleswell Road yn cael ei ddylunio'n ofalus a'i gyflwyno'n dda.

 

"Mae defnydd hirdymor y safle yma i'r dyfodol hefyd yn cael ei drafod, ac yn hyn o beth, rydym yn ymwybodol iawn o'r galwadau o fewn y gymuned am ganolfan feddygol newydd yn y dref.  O ganlyniad, mae sgyrsiau wedi digwydd a byddant yn parhau gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro dros y posibilrwydd o ddefnyddio rhan o'r safle hwn ar gyfer canolfan iechyd."