Cost of Living Support Icon

 

Gallai Bae yr Twr Gwylio ddod yn lleoliad ymdrochi dynodedig

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gofyn am farn ar gynnig i wneud Bae yr Twr Gwylio yn Y Barri yn lleoliad ymdrochi penodedig.

 

  • Dydd Iau, 26 Mis Ionawr 2023

    Bro Morgannwg

    Barri



Mae’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR), sy'n gwneud gwaith yn ymwneud ag ansawdd dŵr, aer a thir ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a’r Fro, wedi cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru ar gyfer y traeth hwn, a elwir yn lleol yn Fae'r Tŵr Gwylio, i roi iddo’r statws hwn.


Gan weithio gyda'r grŵp nofio lleol y Watch Tower Waders, mae’r GRhR wedi casglu'r dystiolaeth angenrheidiol ar gyfer y cais, sy'n cynnwys dogfennu nifer y bobl sy'n defnyddio'r traeth yn ystod y tymor dŵr ymdrochi rhwng 15 Mai a 30 Medi.

 

WT1

Os bydd y cais yn llwyddiannus, bydd y traeth yn cael ei gynnwys yn rhaglen fonitro Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a’r dŵr yn cael ei brofi bob blwyddyn yn rheolaidd am 20 wythnos o ganol mis Mai.
Yna bydd yn cael dosbarthiad ar gyfer ansawdd y dŵr, o ardderchog i gwael.


Mae ymgynghoriad wedi ei lansio hefyd, sy’n gofyn i ymwelwyr â'r traeth, sydd wedi'i leoli rhwng Hen Harbwr y Barri a'r Cnap, beth maen nhw'n ei feddwl am y posibilrwydd ohono’n dod yn draeth ymdrochi dynodedig. Bydd yn cael ei gynnal am chwe wythnos ac yn cau ar 1 Mawrth.


Mae chwe traeth yn y Fro - Bae Dwnrhefn, Traeth Col Huw yn Llanilltud Fawr, Traeth y Cnap, Bae Whitmore, Bae Jackson a Phenarth - eisoes wedi'u nodi fel dyfroedd ymdrochi dynodedig, tra bod cais wedi cael ei gyflwyno gan Gyngor Cymuned Saint-y-brid i ychwanegu Aberogwr at y rhestr.

Dywedodd y Cynghorydd Ruba Sivagnanam, Aelod Cabinet Bro Morgannwg dros Ymgysylltu â'r Gymuned, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoliadol,  "Rydym yn falch o'n traethau yn y Fro, yn enwedig ansawdd eu dŵr, ac am i gymaint o bobl â phosib eu mwynhau. 


"Y gobaith yw y gall ychwanegu Bae'r Tŵr Gwylio at ein rhestr o draethau ymdrochi dynodedig er mwyn helpu i ddenu hyd yn oed mwy o ymwelwyr ac yn ei dro, y gall ei ddefnyddio ar gyfer nofio roi hwb i'w hiechyd a'u llesiant.


"Ond mae'n bwysig ein bod yn canfasio barn pawb sydd â diddordeb cyn i'r cynnig hwn fynd yn ei flaen a byddwn yn annog unrhyw un sydd â barn ar y mater hwn i rannu'r meddyliau hynny."