Cost of Living Support Icon

 

Dechrau gwaith ar Gyfnewidfa Drafnidiaeth Dociau yr Barri 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi dechrau gwaith ar Gyfnewidfa Drafnidiaeth Dociau'r Barri.

 

  • Dydd Gwener, 20 Mis Ionawr 2023

    Bro Morgannwg

    Barri



Ar ôl ei gwblhau, bydd hyn yn dod yn bwynt cyfarfod ar gyfer gwahanol ddulliau o deithio, gan greu canolbwynt ar gyfer mathau cynaliadwy o deithio. 

 

Yn ffinio ag adeilad Swyddfa Dociau Rhestredig Gradd II y Cyngor, mae'r prosiect yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd (P-RC) a Llywodraeth Cymru.


Bydd yn cysylltu gwasanaethau trenau, bws, beicio a thacsis yn ogystal â chynnig cyfleusterau parcio a theithio gerllaw.   

Interchange2Dywedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg:  "Mae hwn yn brosiect uchelgeisiol, blaengar, a nodwyd yn wreiddiol yn y Cynllun Datblygu Lleol, a all helpu i wneud teithio cynaliadwy yn fwy cyfforddus, cyfleus, ac apelgar. 


"Mae cysylltu gwahanol ddulliau o drafnidiaeth gyhoeddus gyda'i gilydd fel hyn yn cynnig dewis arall deniadol, ecogyfeillgar i deithio mewn car.


"Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r Argyfwng Hinsawdd ac mae'r cynllun hwn yn alinio'n berffaith â'n menter Prosiect Sero i wneud yr Awdurdod yn garbon niwtral erbyn 2030.

 

"Gall hefyd gefnogi datblygiad economaidd y Barri a rhanbarth ehangach Dinas Caerdydd, gan helpu'r rhai sy'n chwilio am fynediad at gyfleoedd cyflogaeth ac addysg." 

Amey Consulting a gynlluniodd y datblygiad, a bydd yn rheoli’r prosiect, a dechreuodd y contractwyr Jones Bros Civil Engineering UK gam un o’r prosiect yn gynharach y mis hwn.


Bydd hynny yn gweld cyfnewidfa bysiau a thacsis wedi'i leoli i'r de o'r orsaf mewn ardal o’r maes parcio, gyda disgwyl i'r gwaith gael ei orffen erbyn Mai.


Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad y llynedd ac ymgynghorwyd ag ystod eang o randdeiliaid cyn dechrau ar y gwaith.  Roedd y rhain yn cynnwys busnesau lleol, darparwyr gwasanaethau a sefydliadau cymunedol. 

Interchange1

Dywedodd y Cynghorydd Huw Davies, Cadeirydd Awdurdod Trafnidiaeth Heol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:  "Mae Cyfnewidfa Trafnidiaeth Dociau'r Barri, un o'n 10 Cynllun Metro+, yn ddatblygiad allweddol yn yr adfywiad parhaus trawiadol o'r Barri. "Mae'r cynlluniau trawsnewidiol hyn yn dod â lefel o gysylltedd a fydd yn talu ar ei ganfed i ddinasyddion presennol a chenedlaethau'r dyfodol - o ran amgylchedd wyrddach, mwy o gyfleoedd bywyd a chymunedau mwy llewyrchus.   

 

"Yn y pen draw, mae Cyfnewidfa Dociau'r Barri yn rhan bwysig o weledigaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gyfer system drafnidiaeth integredig, a fydd yn gwneud De Ddwyrain Cymru yn un o’r Rhanbarthau mwyaf cystadleuol ac addas ar gyfer y dyfodol yn y DU.” 

Meddai Katie Burnell, Cyfarwyddwr Cyswllt Amey Consulting:  "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gweithio ochr yn ochr â Chyngor Bro Morgannwg ar ddyluniad Cyfnewidfa Drafnidiaeth Dociau'r Barri. 


“Mae ein gallu ymgynghori a dylunio, sy’n arwain y diwydiant, wedi darparu dyluniad uchelgeisiol ac arloesol a fydd yn darparu cyfnewidfa drafnidiaeth gynaliadwy ac effeithlon i bobl y Barri a De Cymru. Bydd hynny'n gwella ansawdd bywyd, yn cefnogi'r economi leol ac yn annog defnyddio dulliau teithio mwy gwyrdd.  


"Mae'r prosiect yn adeiladu ar ymrwymiad Amey Consulting i wella trafnidiaeth ledled Cymru ac mae wedi'i gyflawni mewn cydweithrediad â llawer o fusnesau bach a chanolig yn ein cadwyn gyflenwi.  
"Rydym nawr yn edrych ymlaen at reoli'r cyfnod adeiladu ar ran y Cyngor."