Cost of Living Support Icon

 

Gwaith i adnewyddu ardal Chwarae Porthceri ar y gweill

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn buddsoddi £160,000 er mwyn cwblhau cynlluniau i uwchraddio ardal Chwarae Parc Gwledig Porthceri.

 

  • Dydd Llun, 23 Mis Ionawr 2023

    Bro Morgannwg



Porthkerry Country Park Play Area DesignsAr ôl ymgynghori â thrigolion, cafodd cynlluniau ar gyfer yr ardal chwarae newydd a gwell eu cwblhau a dechreuodd contractwyr weithio ar y safle ddydd Llun 23 Ionawr.

 

Nod y buddsoddiad yw trawsnewid yr ardal chwarae wedi dirywio’n ofod hwyliog a modern i blant hyd at 12 oed.

 

Gyda thema coetir, natur a môr, bydd y safle newydd yn cynnwys amrywiaeth o offer newydd, gan gynnwys siglenni, rowndabowt sy'n addas i gadeiriau olwyn, dringwr pyramid ac offer synhwyraidd.

 

Gan ystyried sylwadau'r cyhoedd o'r ymgynghoriad cyhoeddus, mae'r cynlluniau hefyd yn ceisio gwella mynediad i'r safle.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilson - Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladau; "Mae'n wych bod y gwaith adnewyddu yn ardal chwarae Porthceri ar y gweill.

 

"Mae'r gwaith uwchraddio’n rhan o gynllun ehangach i adfywio ardaloedd chwarae ar draws y Fro.

 

“Mae’r safle yn boblogaidd iawn yn y gymuned ac rwy’n siŵr y bydd y cyfleuster newydd yn cael croeso a’i fwynhau gan lawer o bobl.

 

"Bydd y cynlluniau anhygoel yn trawsnewid y safle’n ofod hamdden hwyliog a rhyngweithiol ac rwy’n edrych ymlaen at weld y canlyniad gorffenedig."