Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Iau, 29 Mis Mehefin 2023
Bro Morgannwg
Yn ystod yr Araith Groesawu, dywedodd y Cynghorydd Julie Aviet, Maer Bro Morgannwg: "Am yr un mlynedd ar bymtheg diwethaf, mae Cyngor Bro Morgannwg wedi bod yn gefnogwr parhaus i Goleg Caerdydd a'r Fro a'r adran gelf. Mae addysg gelf yn cynnig cyfle anhygoel i arbrofi, ennill sgiliau, dysgu am ddeunyddiau, archwilio diddordebau, a dysgu sut i'w mynegi trwy'r technegau rydych chi wedi'u dysgu."
Yn ystod yr Araith Groesawu, dywedodd y Cynghorydd Julie Aviet, Maer Bro Morgannwg: "Am yr un mlynedd ar bymtheg diwethaf, mae Cyngor Bro Morgannwg wedi bod yn gefnogwr parhaus i Goleg Caerdydd a'r Fro a'r adran gelf.
Mae addysg gelf yn cynnig cyfle anhygoel i arbrofi, ennill sgiliau, dysgu am ddeunyddiau, archwilio diddordebau, a dysgu sut i'w mynegi trwy'r technegau rydych chi wedi'u dysgu."
Mae'r bartneriaeth rhwng adrannau'r celfyddydau yng Nghyngor Bro Morgannwg a Choleg Caerdydd a'r Fro wedi bod yn parhau am yr un mlynedd ar bymtheg diwethaf ac yn rhoi cyfle unigryw i fyfyrwyr ac artistiaid arddangos eu gwaith mewn lleoliad proffesiynol.
Llongyfarchodd Sharon James, Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, y myfyrwyr ar eu sioe wych a dywedodd pa mor lwcus oedd trigolion i gael yr oriel yn Y Barri.
Cyflwynodd Cadeirydd Cyfeillion yr Oriel Gelf Ganolog Dennis Clarke a'r Aelod o'r Bwrdd Dr Jane Salisbury wobr flynyddol y Cyfeillion i ddau o'r myfyrwyr.
Wedi'u dewis am eu gwaith caled a'u hymroddiad i'r cwrs, dyfarnwyd tystysgrif a gwobr ariannol i'r myfyrwyr Elina Sarkisian a Kacey Bosely gan y sefydliad.
Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Birch: "Mae'r oriel yn cael ei rhedeg gan Gyngor Bro Morgannwg ac mae'n lle gwych i arddangos gwaith. "Mae'r cyfleuster yn rhoi cyfle prin i fyfyrwyr ymgysylltu â'r cyhoedd ehangach a byddem yn annog pawb i ymgysylltu â chelf lle bo hynny'n bosibl. Hoffem ddymuno pob llwyddiant i'r myfyrwyr gyda'r arddangosfa a'u hymdrechion proffesiynol yn y dyfodol."
Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Birch: "Mae'r oriel yn cael ei rhedeg gan Gyngor Bro Morgannwg ac mae'n lle gwych i arddangos gwaith.
"Mae'r cyfleuster yn rhoi cyfle prin i fyfyrwyr ymgysylltu â'r cyhoedd ehangach a byddem yn annog pawb i ymgysylltu â chelf lle bo hynny'n bosibl.
Hoffem ddymuno pob llwyddiant i'r myfyrwyr gyda'r arddangosfa a'u hymdrechion proffesiynol yn y dyfodol."
Am fwy o wybodaeth am yr arddangosfa hon ac unrhyw ddigwyddiadau celf eraill yn y Fro, ewch i'n tudalen Celf a Diwylliant.