Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 13 Mis Mehefin 2023
Bro Morgannwg
At lyfr yn cael ei ysgrifennu gan Sue Trusler, o'r enw ‘The Art Family’. Bydd y cymeriadau'n cael eu harddangos yn Times Square ar 22 Mehefin fel rhan o arddangosfa ddigidol gan Artist Talk Magazine.
Crëwyd ‘The Art Family’ i annog aelodau iau o'r teulu i fwynhau celf ac fel ffordd llawn hwyl i blant ddysgu creu gwahanol fathau o farciau. Mae’n derm a ddefnyddir i ddisgrifio'r llinellau, y dotiau, y marciau a'r patrymau gwahanol yr ydym yn eu creu mewn gwaith celf.
Mae'r gwaith celf a ddewiswyd yn dangos y chwe chymeriad niwtral o ran rhywedd, bob un yn cynrychioli gwahanol fathau o greu marciau mewn lliwiau ac ystumiau amrywiol.
Dywedodd Sue: "Rwyf wrth fy modd ein bod wedi cael ein dewis i arddangos y gwaith celf hwn yn Efrog Newydd. "Gobeithio y bydd hyn yn rhoi Penarth ar y map ac yn tynnu sylw at y gwaith pwysig a diddorol rydym yn ei wneud yn cefnogi ein cymuned. "Mae'r Cylchgrawn yn cynhyrchu llyfr o'r arddangosfa, a fydd yn cynnwys The Art Family a lluniau o'r arddangosfa go iawn. Rydym yn llawn cyffro ein bod i rannu hyn unwaith y bydd wedi'i gyhoeddi."
Dywedodd Sue: "Rwyf wrth fy modd ein bod wedi cael ein dewis i arddangos y gwaith celf hwn yn Efrog Newydd.
"Gobeithio y bydd hyn yn rhoi Penarth ar y map ac yn tynnu sylw at y gwaith pwysig a diddorol rydym yn ei wneud yn cefnogi ein cymuned.
"Mae'r Cylchgrawn yn cynhyrchu llyfr o'r arddangosfa, a fydd yn cynnwys The Art Family a lluniau o'r arddangosfa go iawn. Rydym yn llawn cyffro ein bod i rannu hyn unwaith y bydd wedi'i gyhoeddi."
Nid yw Sue yn gallu teithio i Efrog Newydd, ond gobeithio y bydd yr arddangosfa ar gael i'w gweld ar lif byw.
Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Birch: "Mae hyn yn newyddion gwych, a hoffem longyfarch pawb a fu'n rhan o'r gwaith celf a ddewiswyd. "Mae cyfleusterau Gofod Gwneud Llyfrgell Penarth yn rhoi cyfle i bobl gael gwybodaeth ac yn annog datblygiad creadigrwydd a lles, ac mae’r prosiect hwn yn dyst i hyn."
Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Birch: "Mae hyn yn newyddion gwych, a hoffem longyfarch pawb a fu'n rhan o'r gwaith celf a ddewiswyd.
"Mae cyfleusterau Gofod Gwneud Llyfrgell Penarth yn rhoi cyfle i bobl gael gwybodaeth ac yn annog datblygiad creadigrwydd a lles, ac mae’r prosiect hwn yn dyst i hyn."
Bydd gweithdy celf plant yn cael ei gynnal yn Llyfrgell Dinas Powys yn ystod gwyliau'r haf. Bydd y dyddiadau a manylion cofrestru yn cael eu cadarnhau cyn bo hir.