Cost of Living Support Icon

 

Cyngor y Fro yn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod trwy gynnal digwyddiad ym Mhafiliwn Pier Penarth

Cynhaliodd Cyngor Bro Morgannwg ddigwyddiad ddydd Mercher 8 Mawrth i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ym Mhafiliwn Pier Penarth. 

 

  • Dydd Iau, 09 Mis Mawrth 2023

    Bro Morgannwg



 

Cafodd y digwyddiad a’i gyfranogwyr yn fenywod i gyd, ei ariannu’n llawn gan y noddwyr - Y Sefydliad Waterloo, ISG, a chyfreithwyr CJCH, ac fe'i cefnogwyd gan Arlwyo Big Fresh.

 

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (DRhM) yn ddiwrnod rhyngwladol sy’n dathlu llwyddiant cymdeithasol, economaidd, a diwylliannol menywod.  Y thema eleni yw #CofleidioTegwch

 

Dan ofal Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Lis Burnett, roedd y digwyddiad yn cynnwys prif siaradwyr sy'n archwilio thema'r ymgyrch 'pam nad yw cyfleoedd cyfartal yn ddigon mwyach'. 

 

Y siaradwyr oedd Heather Stevens CBE, Cadeirydd Ymddiriedolwyr y Sefydliad Waterloo, Jane O'Leary, Cyfarwyddwr Sector Addysg ISG a Kellie Beirne, Cyfarwyddwr, Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.  

 

 

Rhannodd pob un o'r menywod a siaradodd eu profiadau o gael eu trin yn wahanol yn y gwaith a goresgyn rhagfarnau i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd. A soniodd pob un am eu hymrwymiad i fwrw ymlaen â chyfleoedd teg i fenywod.

Wrth agor y digwyddiad dywedodd y Cynghorydd Burnett: "Gallwn ni edrych yn ôl ar ba mor bell rydyn ni wedi cyrraedd ond mae angen i ni hefyd edrych ar ba mor bell mae rhaid i ni fynd."Rwy'n falch iawn bod gennym ni Gabinet a Chyngor cytbwys o ran rhywedd. Rwy'n un o bedair Arweinydd benywaidd yng Nghymru, sy'n swnio'n dda iawn ond mae yna 22 o awdurdodau lleol."

Ac wrth gloi'r digwyddiad ychwanegodd: "Ni fyddwn ni wedi gallu dod at ein gilydd heddiw i ddathlu heb gefnogaeth hael ein noddwyr a ariannodd y digwyddiad yn llawn a'n siaradwyr sydd wedi bod yn ysbrydoledig. Diolch.” 

Bu perfformiadau cerddorol hefyd gan fyfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wrth i westeion fwynhau Te Prynhawn.