Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn cytuno ar gamau gweithredu ar gyfer y flwyddyn i ddod

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cytuno ar ei Gynllun Cyflawni Blynyddol (CCB) ar gyfer y flwyddyn i ddod, gan nodi’r hyn y bydd y sefydliad yn canolbwyntio arno am y 12 mis nesaf i gyflawni ei bedwar amcan lles. 

 

  • Dydd Iau, 30 Mis Mawrth 2023

    Bro Morgannwg



Yr amcanion lles yw:

 

  • Gweithio gyda'n cymunedau ac ar eu rhan           
  • Cefnogi dysgu, cyflogaeth a thwf economaidd cynaliadwy         
  • Cefnogi pobl gartref ac yn eu cymuned           
  • Parchu, gwella a mwynhau ein hamgylchedd 

Mae'r cynllun eleni hefyd yn tynnu sylw at dair her hollbwysig sydd wedi'u nodi fel meysydd blaenoriaeth i'r Cyngor ac sy'n berthnasol i'n holl wasanaethau. Y tair her hollbwysig yw:

  • Yr argyfwng costau byw  
  • Prosiect Sero   
  • Gwydnwch sefydliadol

Cafodd y cynllun ei gymeradwyo mewn cyfarfod y Cyngor ar ddydd Llun 6 Mawrth a chafodd ei lywio gan ymgynghoriad cyhoeddus cynhwysfawr.

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg:  "Mae hwn yn gynllun uchelgeisiol sy'n amlinellu'r hyn fydd yn brif ffocws i'r Cyngor dros y flwyddyn i ddod. 

 

"Rydym yn benderfynol o barhau i ddarparu cymorth i'n trigolion wrth i ni lywio ein ffordd trwy'r argyfwng costau byw a pharhau i weithio tuag at ein nod o fod yn garbon niwtral erbyn 2030. 

 

"I ni, mae gwydnwch sefydliadol yn golygu edrych ar sut rydym yn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol mewn ymateb i gostau a phwysau cynyddol.

 

"Fel sefydliad rydym wedi wynebu sawl her yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf ond drwy'r cyfan rydym wedi cynnal ein ffocws ar ein gweledigaeth o greu cymunedau cryf â dyfodol disglair. 

 

“Rydym am i Fro Morgannwg fod yn lle gwych i fyw, i weithio ac i ymweld ag ef.”

Bydd cynnydd yn erbyn yr amcanion a nodir yn y cynllun yn cael ei adrodd i bwyllgorau'r Cyngor bob chwarter i roi trosolwg i aelodau etholedig ac i roi iddynt hefyd gyfle i graffu ar y gwaith hwn. 

 

Gall aelodau'r cyhoedd hefyd fynychu cyfarfodydd pwyllgorau a gofyn cwestiynau i aelodau etholedig yn ogystal â chymryd rhan mewn ymgysylltu ac ymgynghori drwy gydol y flwyddyn sy'n helpu i lywio gwaith y Cyngor. 

 

Am ragor o wybodaeth ac i weld y cynllun yn llawn, ewch i wefan y Cyngor.