Cost of Living Support Icon

 

Fflyd cerbydau trydan yn torri 13 tunnell o allyriadau CO2 

Mae newidiad Cyngor Bro Morgannwg i gerbydau trydan wedi lleihau ôl troed carbon yr awdurdod lleol yn sylweddol.   

 

  • Dydd Iau, 04 Mis Mai 2023

    Bro Morgannwg



Wrth i'r Cyngor weithio tuag at ei darged Project Sero o fod yn garbon niwtral erbyn 2030, mae cyflwyno'r cerbydau trydan yn chwarae rhan allweddol i gyrraedd nodau Project Sero. 

 

Cyflwynodd y Cyngor ei fflyd gyntaf o gerbydau trydan yn 2022 ac mae'n bwriadu disodli’r cerbydau disel ar draws ei wasanaethau.  

 

Disodlwyd nifer o geir sy'n cael eu pweru gan ddisel yn gynharach eleni gan 12 cerbyd trydan Hyundai Kona newydd. Gyda dros 4000 o filltiroedd ar bob cerbyd, mae'r ceir EV newydd wedi lleihau allyriadau CO2 y Cyngor tua 13,554kg hyd yma. Byddant yn parhau i leihau allyriadau carbon yn sylweddol wrth i 2030 agosáu.  Gall ceir Kona trydan deithio hyd at 300 milltir ar un gwefriad a gellir eu hailwefru mewn llai nag awr, gan ddefnyddio man gwefru cyflym.  

 

Gyda chynlluniau pellach i ddisodli cerbydau fflyd y Cyngor gyda dewisiadau pŵer trydan amgen, mae'r Cyngor yn ddiweddar wedi caffael nifer o faniau trydan sydd bellach yn cael eu defnyddio.  

 

Mae'r cerbydau'n cael eu cynnal gan dîm Gwasanaethau Trafnidiaeth mewnol y Cyngor mewn partneriaeth â Clenergy EV, sy'n monitro’r gorsafoedd gwefru EV yn y Swyddfeydd Dinesig yn y Barri a Depo'r Alpau yng Ngwenfô.    

 

Cllr Mark Wilson with EV Pool CarDwedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladau – Y Cynghorydd Mark Wilson:  "Mae'r Cyngor yn cymryd ei gyfrifoldeb dros fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd o ddifrif - a dyna pam ein bod wedi rhoi cynlluniau uchelgeisiol o'r fath ar waith i gyrraedd dim allyriadau carbon erbyn 2030.  

 

"Rhaid i ni fel Awdurdod Lleol arwain trwy esiampl o ran lleihau ein hôl-troed carbon, felly rydym yn gweithio i wneud holl allyriadau fflyd y Cyngor yn sero wrth y beipen fwg.  

 

"Mae ein rhaglen adnewyddu cerbydau yn allweddol er mwyn cyrraedd ein targed Prosiect Sero, ac mae gennym gynlluniau cyffrous i ddisodli mwy o gerbydau fflyd y Cyngor yn fuan. 

 

"O reoli gwastraff i staff cymorth ar gyfer preswylwyr sy’n agored i niwed, mae cerbydau'n hanfodol i lawer o weithwyr y Cyngor er mwyn cyflawni dyletswyddau beunyddiol eu rolau. Trwy gyflwyno dewisiadau cerbydau trydan amgen ar draws ein gwasanaethau, gallwn sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni gyda chyn lleied o effaith â phosib ar yr amgylchedd."  

 

Er mwyn cefnogi trigolion ac ymwelwyr â'r Fro sydd wedi newid i gerbydau trydan, mae nifer o orsafoedd gwefru EV wedi'u gosod mewn mannau cyhoeddus ar draws y Sir ac sydd bellach ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio.