Cost of Living Support Icon

 

Rhaglen Creu Lleoedd Newydd i gynnwys preswylwyr wrth gynllunio dyfodol y Bont-faen   

Cynhaliodd Cyngor Tref y Bont-faen ei sesiwn mapio cymunedol gyntaf fis yma gan nodi lansio rhaglen creu lleoedd fydd yn rhoi llais i'r gymuned leol wrth gynllunio dyfodol y dref.  

 

  • Dydd Gwener, 19 Mis Mai 2023

    Bro Morgannwg



Cowbridge Placemaking consultation at Bear ParkCynhaliwyd y sesiwn ar ran Cyngor Tref y Bont-faen gyda Llanfleiddan ym Mhicnic y Coroni’n ddiweddar, ar 7 Mai. Gwahoddwyd trigolion lleol i rannu'r hyn yr oeddent yn ei hoffi am y Bont-faen a'r pentrefi cyfagos gan ddefnyddio map rhyngweithiol, tra’n gadael sylwadau hefyd ar yr hyn y gellid ei wella. 

 

Bydd cyngor y dref yn gweithio yn unol â Siarter Creu Lleoedd Cymru, a ddatblygwyd ar y cyd â Phartneriaeth Creu Lleoedd Cymru. Y sesiwn mapio cymunedol yw'r cyntaf o nifer o weithgareddau lle ceisir barn pobl leol er mwyn creu darlun o'r hyn sydd bwysicaf i'r gymuned leol. 

 

 Mae creu lleoedd yn golygu cydweithio ar draws sectorau a disgyblaethau i ystyried datblygiad lleoedd bywiog yn y dyfodol. Cynorthwyir cyngor y dref dros y deunaw mis nesaf gan dîm Cymunedau Creadigol Cyngor Bro Morgannwg. 

 

Mae'r Siarter yn adlewyrchu ymrwymiad rhanddeiliaid unigol ac ar y cyd i gynorthwyo datblygiad lleoedd o ansawdd da ledled Cymru er budd cymunedau. 

 

Mae'r tîm, sydd wedi'i leoli yn y Bont-faen, wedi arwain gwaith creu lleoedd llwyddiannus yn y Barri yn y gorffennol a defnyddiwyd y dull mapio cymunedol yn effeithiol iawn gan ragflaenydd y tîm, Cymunedau Gwledig Creadigol.  

Dywedodd y Cynghorydd Malcolm Wilson, Maer y Bont-faen: "Rydyn ni yng Nghyngor Tref y Bont-faen gyda Llanfleiddan yn llawn cyffro i fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor y Fro a threfi eraill ledled y Fro i ddatblygu cynllun Creu Lleoedd arloesol fydd yn rhoi llais go iawn i gymunedau’r Bont-faen a Llanfleiddan o ran datblygiad y Dref dros y deng mlynedd nesaf a chyfle i gyfrannu a dylanwadu ar bolisïau ehangach ledled y Fro sy'n effeithio ein Tref a'i phobl."

Lansiodd y Cynghorydd Wilson y rhaglen Creu Lleoedd ar gyfer y Bont-faen gyda Llanfleiddan yn y Seremoni i’w Urddo’n Faer ar 16 Mai. Trwy gydol yr haf, bydd yn defnyddio ei foreau coffi misol fel un o'r llu o gyfleoedd i aelodau'r gymuned gymryd rhan mewn gweithgareddau creu lleoedd. 

Dywedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Leoedd Cynaliadwy: "Mae cynnwys pobl leol yn nyfodol eu tref yn hanfodol. Mae'n wych cael gweithio'n agos gyda chyngor y dref a chynghorwyr lleol ar y weledigaeth hon ar gyfer y Bont-faen. Mae cyfranogiad gan bentrefi, grwpiau cymunedol, trigolion a busnesau cyfagos yn hanfodol i ddylunio cynllun creu lleoedd ar gyfer y Bont-faen."