Cost of Living Support Icon

 

Campws Ysgol Newydd i Ysgol Iolo Morganwg yn cael ei gymeradwyo 

Bydd campws ysgol newydd sbon gwerth £13.74 miliwn yn cael ei adeiladu yn y Bont-faen i ddyblu lleoedd ysgol i 420 erbyn mis Medi 2025.

  • Dydd Mercher, 31 Mis Mai 2023

    Bro Morgannwg



Mae Ysgol Iolo Morganwg yn un o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg y Fro, sydd wedi'i lleoli yn y Bont-faen, sydd ar hyn o bryd yn cynnig hyd at 210 o leoedd ysgol. Bydd y campws newydd yn dyblu lleoedd ysgol, gan gynyddu hyn i 420 o ddisgyblion yn y pen draw. Bydd hyn hefyd yn arwain at leoedd meithrin ychwanegol gyda’r lleoedd yn cynyddu o 66 i 96 o leoedd rhan-amser (48 llawn amser).

 

Bydd yr ysgol newydd yn cael ei hadeiladu ar dir sydd wedi'i leoli ar y datblygiad preswyl newydd i'r gogledd-orllewin o Fferm Darren (a elwir yn Gerddi Clare), sydd 1.3km o adeilad presennol yr ysgol.

 

Cllr Rhiannon BirchDywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg – Y Cynghorydd Rhiannon Birch: “Mae’r Cyngor yn falch o weld y project hwn yn mynd yn ei flaen i’r cam nesaf.

 

"Nid yw'n bosibl ehangu safle presennol Ysgol Iolo Morganwg. Ni all adeilad o’r 19eg ganrif gynnal amgylchedd dysgu modern ac mae gofod awyr agored cyfyngedig yn cyfyngu ar alluoedd yr ysgol.

 

"Bydd y buddsoddiad o £13 miliwn yn ariannu adeilad pwrpasol newydd sbon sy'n addas ar gyfer dysgu yn yr 21ain ganrif, gan fod o fudd i ddisgyblion, staff, a'r gymuned ehangach.

 

"Fel Cyngor, mae'n hanfodol ein bod yn cefnogi'r nifer gynyddol o siaradwyr Cymraeg yn ein cymunedau gyda'r galw presennol am addysg cyfrwng Cymraeg ac i genedlaethau'r dyfodol. Bydd campws newydd, mwy ar gyfer Ysgol Iolo Morganwg yn cefnogi siaradwyr Cymraeg yn ein cymunedau yn yr hirdymor."

 

Mae safle presennol Ysgol Iolo Morganwg yn cynnwys adeilad ysgol gwreiddiol oes Fictoria sy'n cynnwys nifer o flociau dros dro. Nid yw'r adeilad presennol yn addas at y diben ac mae ganddo leoedd awyr agored cyfyngedig heb gyfle i ehangu'r ysgol ar y safle presennol.

 

Bydd y safle newydd yn darparu cyfleusterau o'r radd flaenaf i staff a dysgwyr Ysgol Iolo Morganwg ac yn gwella mynediad o bob rhan o'r Fro Orllewinol gyda chysylltiadau trafnidiaeth gwell.

 

Bydd yr ysgol yn ganolog i’r gymuned a bydd yn hyrwyddo addysg Gymraeg, yn gwneud yr iaith Gymraeg yn fwy hygyrch ac yn hyrwyddo dwyieithrwydd i gefnogi ymrwymiadau’r Cyngor yn ei Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) 10 mlynedd, a strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru i dargedu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

 

Mae'r Cyngor wedi buddsoddi'n sylweddol mewn addysg cyfrwng Cymraeg sydd wedi gweld cynnydd mewn dysgwyr dwyieithog a'i nod yw parhau â'r duedd hon i sicrhau bod digon o gapasiti dros yr hirdymor.

 

Fel rhan o ddatblygiad CSCA y Cyngor, bydd campws newydd Ysgol Iolo Morganwg hefyd yn cynnwys canolfan addysg oedolion a chanolfan drochi ar gyfer disgyblion oed cynradd o 7 oed ac yn hŷn, yn ogystal â chynnig Rhaglenni Addysg Oedolion a Chymunedol ar ôl oriau ysgol.

 

Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn cynyddu mewn poblogrwydd yn y Fro ac wedi gweld twf sylweddol dros y 18 mlynedd diwethaf ers agor Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, yr ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg sy'n gwasanaethu ardal gyfan yr Awdurdod. Gyda'r 210 o leoedd ysgol ychwanegol, bydd disgyblion oed cynradd Ysgol Iolo Morganwg sydd eisiau addysg cyfrwng Cymraeg ar lefel uwchradd yn cael eu derbyn i Ysgol Bro Morgannwg.