Cost of Living Support Icon

 

Dull creu lleoedd newydd i roi mwy o rôl i gymunedau wrth gynllunio datblygiadau yn y Fro

Bydd cynlluniau 'creu lleoedd' pwrpasol yn cael eu datblygu ar gyfer pob un o'r pedair tref ym Mro Morgannwg ar ôl i'r Cyngor fabwysiadu Siarter Creu Lleoedd Cymru.

 

  • Dydd Iau, 25 Mis Mai 2023

    Bro Morgannwg



Cytunwyd yng nghyfarfod cabinet y Cyngor ar 25 Mai 2023 y byddai'r awdurdod yn llofnodi Siarter Creu Lleoedd Cymru ac wrth wneud hynny yn cael mynediad at gyllid gan Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i wella sut mae'r Cyngor yn gweithio gyda chymunedau lleol i nodi blaenoriaethau datblygu.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Leoedd Cynaliadwy:  "Mae creu lleoedd yn allweddol i sicrhau bod ein cymunedau'n ffynnu yn yr hinsawdd economaidd bresennol.

 

"Mae'n rhaid i ni sicrhau bod gan ein trefi amgylcheddau adeiledig a naturiol sydd wedi'u cynllunio'n dda. Mae ansawdd yr amgylcheddau hyn yn aml yn ffactor allweddol yn iechyd a lles y cymunedau sy'n byw ynddynt. Mae dod yn llofnodwr i’r Siarter Creu Lleoedd yn ymrwymiad cyhoeddus i ddarparu lleoedd o safon i bawb yn y Fro.

 

"Trwy lofnodi'r Siarter rydym yn addo cefnogi’r dull creu lleoedd ym mhob maes perthnasol o'n gwaith a hyrwyddo'r chwe egwyddor creu lleoedd wrth gynllunio, dylunio a rheoli lleoedd newydd a phresennol."

 

Creu lleoedd yw'r broses ragweithiol a chydweithredol o greu a rheoli lleoedd. Mae Cymru'r Dyfodol: Cynllun Cenedlaethol 2040 a pholisi cynllunio cenedlaethol yn nodi bod creu lleoedd yn hanfodol i gyflawni datblygu cynaliadwy a gwella lles cymunedau.

 

Bydd gwaith creu lleoedd yn cael ei arwain gan dîm Cymunedau Creadigol y Cyngor. Mae'r tîm eisoes yn gweithio i gefnogi Cyngor Tref y Bont-faen yn eu gweithgareddau creu lleoedd ac yn y gorffennol mae wedi arwain gwaith creu lleoedd llwyddiannus yn y Barri.

 

Dywedodd y Cynghorydd Malcolm Wilson, Maer y Bont-faen: "Rydyn ni yn y Bont-faen gyda Chyngor Tref Llanfleiddan yn gyffrous i fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor y Fro a threfi eraill ledled y Fro i ddatblygu cynllun Creu Lleoedd arloesol.

 

Bydd y cynllun yn rhoi llais gwirioneddol i gymunedau’r Bont-faen a Llanfleiddan yn natblygiad y dref dros y deng mlynedd nesaf a chyfle i gyfrannu at - a dylanwadu ar - bolisïau ehangach ledled y Fro sy'n effeithio ar ein tref a'i phobl."