Cost of Living Support Icon

 

Menter beilot 'Strydoedd Chwarae' yn lansio yn ardal y Fro  

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi bod yn gweithio'n agos gyda rhai o drigolion y Fro i gau strydoedd yn ddiogel, dros dro er mwyn i blant fwynhau chwarae yn yr awyr agored.  

 

  • Dydd Mercher, 03 Mis Mai 2023

    Bro Morgannwg



Mae Strydoedd Chwarae, neu Sesiynau Chwarae Tu Allan, o dan arweiniad cymdogion yn cau ffyrdd dros dro, cynllun sydd eisoes wedi bod yn boblogaidd ledled y Deyrnas Gyfunol. 


Maen nhw'n creu lle diogel i blant chwarae'n rhydd gyda'i gilydd ar garreg eu drws.

 
Mae Tîm Chwarae'r Fro wedi bod yn gweithio ar y cyd â Chwarae Cymru a thrigolion er mwyn gweithredu’r cynllun cau strydoedd ar gyfer chwarae tu allan mewn dau leoliad yn y Fro. 


Play Street Initiative Residents at Romilly RoadRomilly Road a Dunraven Street, y ddau wedi'u lleoli yn Y Barri, yw canolbwynt y cynllun peilot Strydoedd Chwarae. Bydd y ddwy ffordd yn cau am gyfanswm o 2 awr y mis am y 12 mis nesaf, lle gall plant a thrigolion gymryd rhan yn chwarae a chymdeithasu yn yr awyr agored. 


Bydd trigolion y ffyrdd yn cael arwyddion, gwisgoedd ‘hi-vis’, cit chwarae bach, a chardiau gwybodaeth i roi’r cau fyrdd ar waith.  Bydd Swyddog Datblygu Chwarae Cymunedol Cyngor Bro Morgannwg hefyd wrth law i gefnogi a monitro yn ystod y cyfnodau cau. 


Os bydd y cynllun peilot yn profi'n llwyddiannus fe allai cynlluniau cau ffyrdd sy'n gysylltiedig â chwarae fod ar gael ar gyfer ffyrdd cymwys ledled y Fro. 

 
Fel rhan o gynllun y Cyngor i adeiladu Bro actif ac iach, mae’n hysbys fod manteision iechyd ataliol a lles hirdymor i chwarae.   


Bydd darparu mannau awyr agored diogel yn annog plant i gymryd rhan mewn chwarae mwy actif. 
Dylai cyflwyno Strydoedd Chwarae hefyd gael effaith gadarnhaol ar ansawdd aer drwy leihau allyriadau carbon yn ystod cyfnod cau'r ffyrdd. Mae hyn yn cyfrannu at fenter Project Sero’r Cyngor i fod yn garbon niwtral erbyn 2030.  


Dwedodd y Cynghorydd Gwyn John, yr Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Llesiant: "Nod y Cyngor yw gwneud ein cymunedau'n lefydd gwell i chwarae trwy gynyddu cyfleoedd o ansawdd ar gyfer chwarae ledled y Fro.  


"Mae strydoedd yn gyfrifol am gryn dipyn o ofod cyhoeddus ac fe ddylai fod ar gael i bawb, nid ceir yn unig. 
"Does dim gardd gan bawb a dyw rhai plant ddim yn gallu cyrraedd parciau cyhoeddus neu fannau agored mor hawdd â hynny.


"I blentyn, y gofod bob dydd mwyaf hygyrch yw'r un yn union y tu allan i'w ddrws ffrynt. Trwy gyflwyno cau ffordd dros dro pan fo hynny'n bosib, gallwn sicrhau bod gan blant le diogel i gymryd rhan mewn chwarae awyr agored, creu ffrindiau, a magu hyder. 


"Canlyniad arfaethedig y cynllun peilot hwn yw i fwy o blant fwynhau'r manteision iechyd, cymdeithasol, gwybyddol ac emosiynol y mae chwarae yn yr awyr agored yn ei gynnig - sydd hefyd yn cyd-fynd â nod y Cyngor o greu Bro iach a Chymru iach."