Cost of Living Support Icon

 

Gwelliannau blaenoriaeth a gynigir ar gyfer Esplanade Penarth

Mae rhaglen o welliannau blaenoriaeth uchel i Esplanade Penarth a glannau’r dref i’w hystyried gan Gyngor Bro Morgannwg yn dilyn ymarfer ymgysylltu cyhoeddus helaeth.

  • Dydd Gwener, 19 Mis Mai 2023

    Bro Morgannwg



Penarth EsplanadeO dan y cynigion, byddai'r cilfachau parcio sydd wedi'u neilltuo ar hyn o bryd ar gyfer masnachu awyr agored yn parhau i gael eu defnyddio ar gyfer hyn, gyda thrwyddedau'n cael eu hadolygu ar sail fisol. Mewn ymateb i sylwadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus y llynedd, byddai set o safonau dylunio wedyn yn cael eu cyflwyno i sicrhau bod ymddangosiad ac ansawdd yr ardaloedd eistedd yn cwrdd â safonau cyrchfan proffil uchel.

 

Os cytunir ar yr argymhellion i Gabinet y Cyngor mewn cyfarfod ar 25 Mai, gellid cyflwyno rheolau hefyd i atal masnachwyr sy'n gweini cwsmeriaid ar y palmant, yn hytrach na'r mannau awyr agored dynodedig.

 

Mae mynediad i lan y môr yn thema allweddol arall yng nghynlluniau'r Cyngor ac mae'r posibilrwydd o gael gwasanaeth cludo gwennol o ganol y dref a maes parcio Pennau’r Clogwyni yn cael ei ymchwilio, gyda'r bwriad o gynnig hyn fel consesiwn i weithredwyr lleol.

 

Mae’r adroddiad dan sylw hefyd yn nodi’n glir fwriad y Cyngor i ymchwilio i welliant i arwyddion a chyfeirbwyntiau i helpu i gyfeirio ymwelwyr i’r dref a’i hatyniadau, gan gynnwys yr Esplanade, canol y dref, cyrion Penarth a gorsafoedd trenau’r dref.

 

Yr angen am welliant i’r arwyddion sy'n cyfeirio ymwelwyr i faes parcio'r Esplanade a Phennau’r Clogwyni ar gyfer cerddwyr, beicwyr a cherbydau. Ffyrdd o uwchraddio hyn er mwyn denu mwy o bobl o ganol y dref, cyrion Penarth, a gorsafoedd trenau'r dref.

Gallai ffynhonnau dŵr yfed cyhoeddus ar hyd yr Esplanade hefyd gael eu cyflwyno i wneud glan y môr yn ardal y gall pawb ei mwynhau heb fod angen prynu lluniaeth.

 

Mae astudiaeth strategol hirdymor hefyd yn cael ei chynnig, gan gynnwys llunio strategaeth 'seiliedig ar leoedd' ar gyfer yr Esplanade. Bwriad hyn yw cam cyntaf datblygu cynllun 'creu lleoedd' ar gyfer tref gyfan Penarth.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Leoedd Cynaliadwy: “Mae glannau Penarth wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf. Fel y dymuna pawb, rydym am i’r gyrchfan wyliau barhau i dyfu a chroesawu mwy o ymwelwyr, ond yn amlwg mae angen cyflawni hyn mewn ffordd sy’n cynnal treftadaeth yr Esplanade ac nad yw’n effeithio’n negyddol ar drigolion lleol.

 

"Yn 2022 fe wnaethom ymrwymiad i siarad â thrigolion lleol ac ymwelwyr â Phenarth am yr hyn yr oeddent yn ei werthfawrogi fwyaf ar lan y môr a sut y gellid gwella’r gyrchfan wyliau. Mae'r safbwyntiau a rannwyd wedi rhoi arweiniad cryf i ni ar sut i wneud gwelliannau tymor byr a datblygu cynllun hirdymor strategol ar gyfer datblygu'r ardal.

 

"Mae'r cyfoeth o adborth a gawsom yn arwydd gwych o sut mae ymgysylltu ‘ymdeimlad o le’ yn gweithio. Os yw'r Cyngor am ddatblygu lleoedd cynaliadwy, mae angen gwybodaeth leol fanwl arnom i lywio ein cynlluniau.  Gall hyn gymryd amser ond mae’n rhoi’r wybodaeth hanfodol sydd ei hangen arnom ac yn ein galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus am y materion yr ydym yn gwybod sydd o bwys i drigolion lleol."

Buddsoddwyd dros £500,000 ym Mhafiliwn Pier Penarth a'r Esplanade yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, gan gynnwys adnewyddu'r Pafiliwn, ail-baentio dodrefn stryd, gwaith ail-wynebu, adnewyddu lloches Pennau’r Clogwyni ac adnewyddu adeiladau presennol i greu mannau arlwyo newydd wrth fynedfa Gerddi Windsor ac yn Ardal Chwarae Pennau’r Clogwyni.

 

Dechreuodd rhaglen o drafodaethau ymgysylltu – Eich Esplanade Chi - ym mis Awst 2022 gyda chyfres o arolygon barn ar-lein a'r cyfle i bobl rannu eu meddyliau, gan ddefnyddio bwrdd syniadau ym Mhafiliwn Pier Penarth. Parhaodd y gwaith hwn i fis Medi pan lansiwyd fforwm trafod ar-lein hefyd.  Ystyriwyd yr ymatebion i'r ymarferion hyn a chynhaliwyd ymarfer arolwg mwy ffurfiol drwy gydol mis Hydref.  Dechreuodd trydydd cam yr ymgysylltu gyda dau ddigwyddiad galw heibio cyhoeddus yn ogystal â chyfres o grwpiau ffocws ar gyfer trigolion, busnesau a grwpiau cymunedol ym mis Tachwedd.