Cost of Living Support Icon

 

Y Fro yn croesawu Maer a Dirprwy newydd ar gyfer 2023/24 

Cafodd y Cynghorydd Julie Aviet ei phleidleisio'n Faer newydd Bro Morgannwg yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) y Cyngor ar 10 Mai.

 

  • Dydd Iau, 18 Mis Mai 2023

    Bro Morgannwg



The-Mayor-and-Deputy-of-the-Vale-of-Glamorgan350x250Gyda’r Cynghorydd Elliot Penn yn ddirprwy, bydd y Maer yn ymgymryd â rolau gweithdrefnol a seremonïol amrywiol ar ran y Sir yn ystod ei blwyddyn yn y swydd.

 

Fel Maer a Dirprwy, bydd y Cynghorydd Aviet a'r Cynghorydd Penn hefyd yn parhau i godi arian ar gyfer sefydliad y Maer. Mae'r Sefydliad yn cynnig cefnogaeth ariannol i grwpiau cymunedol, y sector gwirfoddol a sefydliadau nid-er-elw tuag at gost mentrau sy'n helpu i gefnogi gweledigaeth y Cyngor o 'Gymunedau Cryf â Dyfodol Disglair'.

Dwedodd y Cynghorydd Julie Aviet, Maer Bro Morgannwg: "Mae'n anrhydedd ac yn fraint cael cynrychioli Bro Morgannwg fel Maer.

 

"Rwy'n falch o'n traethau hardd, ein parciau a’n cefn gwlad a'n pobl yn eu holl amrywiaeth.

 

"Yn ystod fy nhymor yn y swydd, dwi'n gobeithio cyfleu dwy neges: bod â balchder yn lle rydych chi'n byw a chael empathi tuag at eraill."