Cost of Living Support Icon

 

Mae'r rownd ddiweddaraf o geisiadau am gyllid ar gyfer digwyddiadau ar agor nawr 

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gwahodd trefnwyr digwyddiadau i wneud cais am gyllid grant digwyddiadau 2023/24 o hyd at £2500.

 

  • Dydd Mawrth, 09 Mis Mai 2023

    Bro Morgannwg



Brooks, BronwenAr ôl gweithio'n agos gyda Chynghorau Tref a Chymuned a darparwyr digwyddiadau allanol i ddarparu rhaglen y llynedd, bydd y Cyngor unwaith eto yn gweithio gyda sefydliadau a busnesau lleol i ddarparu ystod o ddigwyddiadau fforddiadwy, ledled y sir yn ystod y flwyddyn i ddod.


Mae'r Cyngor yn gwahodd ceisiadau ar gyfer cynllun grant 2023/24 trwy ddwy ffrwd; un ar gyfer cefnogi digwyddiadau sy’n denu ymwelwyr a'r llall i gefnogi digwyddiadau cymunedol lleol.


Rhaid i’r holl ddigwyddiad a ystyrir ar gyfer y cyllid gael eu lleoli ym Mro Morgannwg a dylent fod â photensial cryf i greu rhywfaint o fuddion economaidd a chymdeithasol, megis cyflogaeth, refeniw i fusnesau'r Sir a chodi ymwybyddiaeth am achosion lleol.

Dywedodd Y Cynghorydd Bronwen Brooks, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg a’r Aelod Cabinet dros Leoedd Cynaliadwy: "Rwy'n falch iawn bod y Cyngor yn gallu cefnogi busnesau a threfnwyr digwyddiadau lleol drwy Gynllun Grant Digwyddiadau 2023/24.


"Mae'r cynllun yn gyfle gwych i ddarparwyr gael cyllid i lwyfannu digwyddiadau a fydd yn eu tro yn denu nifer fawr o drigolion ac ymwelwyr, gan roi hwb i economi a diwydiant twristiaeth y Fro.


"Rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy o fanylion am y ceisiadau llwyddiannus a'r digwyddiadau sydd i ddod." 

Mae rhagor o wybodaeth am Gynllun Grant Digwyddiadau Bro Morgannwg a manylion y digwyddiadau sydd i ddod ar gael ar wefan Ymweld â’r Fro.